Cau'r M4 ar bont Hafren i dynnu tollau
- Cyhoeddwyd
Bydd Pont Tywysog Cymru yn cau i gyfeiriad y gorllewin am benwythnos cyn y Nadolig er mwyn tynnu blychau tollau.
Ni fydd gyrwyr yn gorfod talu i deithio ar yr M4 dros Ail Bont Hafren o 17 Rhagfyr ymlaen.
Bydd y bont ynghau o 20:00 ar 14 Rhagfyr er mwyn cwblhau'r gwaith o dynnu'r rhwystrau.
Bydd gyrwyr yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr M48 - Hen Bont Hafren - yn ystod cyfnod y gwaith.
Gallai'r trefniadau effeithio ar siopwyr Nadolig a chefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd fydd yn teithio i wylio'r tîm yn Watford.
Mae disgwyl i'r bont ailagor yn gynnar ar 17 Rhagfyr gyda seremoni i nodi'r newid.
Bydd yr hen bont hefyd yn cau rhwng Sir Gaerloyw a Chas-gwent ar 17-19 Rhagfyr i dynnu'r blychau tollau ar y bont honno hefyd.
Mae gyrwyr wedi gorfod talu i groesi rhwng de orllewin Lloegr a de Cymru ers i'r bont gyntaf gael ei hagor yn 1966.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2018