Canfod neidr filtroed brin yn ystod helfa Calan Gaeaf
- Cyhoeddwyd
Mae neidr filtroed wedi ei chanfod yn sir Castell-nedd Port Talbot, sydd mor brin fel nad oes ganddi enw cyffredin.
Plant oedd yn cymryd rhan mewn helfa Calan Gaeaf ym mharc gwledig Craig Gwladys ddaeth o hyd iddi ar 30 Hydref.
Ers hynny, mae hi wedi ei hadnabod fel y Turdulisoma cf turdulorum.
Mae hi mor brin, hwn yw'r trydydd lleoliad yn unig iddi gael ei chanfod.
Arbenigwr yn y maes, Christian Owen, ddaeth o hyd iddi gyntaf yn 2017, a hynny yn Abercynffig ym Mhen-y-bont.
Yna cafodd ei chadarnhau fel rhywogaeth newydd gan y Dr Jörg Spelda yng Nghasgliad Swoleg Gwladol Bafaria yn yr Almaen.
Safle pwysig
Dim ond yn ne Cymru y mae'r trychfil wedi ei ganfod hyd yma, gyda'r darganfyddiad diweddaraf yng Nghraig Gwladys o dan hen ddail ar safle hen waith glo Gelliau.
Dywedodd Liam Olds o grŵp cadwraeth Buglife Cymru, fod hen weithfeydd glo y de yn safleoedd pwysig iawn o ran dod o hyd i anifeiliaid a thrychfilod prin, yn enwedig infertebradau.
"Mae darganfyddiadau fel hyn yn tanlinellu pwysigrwydd safleoedd fel hyn, a pam mae angen eu gwarchod," meddai Mr Olds.
"Fe allai fod yn rhywogaeth gynhenid nad oes unrhyw un wedi sylwi arni gan fod cyn lleied o bobl yn cofnodi infertebradau yn ne Cymru, neu fe allai fod yn rhywogaeth sydd wedi ei chyflwyno o dramor."
Ychwanegodd ei bod hi'n fwy na thebyg na fyddwn ni fyth yn datrys y dirgelwch hwnnw.