Trefn newydd i leddfu traffig ar gylchfan ger Caerffili

  • Cyhoeddwyd
The Pwll-y-Pant roundaboutFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Ar un adeg roedd tagfeydd o chwe milltir at y gylchfan

Mae 'na obeithion y bydd llai o oedi i deithwyr ar gylchfan Pwll-y-pant ger Caerffili o ddydd Llun ymlaen wrthi'r gwaith ffordd ddod i ben.

Mae tagfeydd wedi bod ar y gylchfan ers i'r gwaith ffordd ddechrau ym mis Hydref 2017.

Ers hynny mae perchnogion busnes a gwleidyddion wedi cwyno am yr oedi i Gyngor Caerffili gan ddweud ei fod wedi cael effaith ar fasnach yn yr ardal.

Mae'r cyngor wedi diolch i yrwyr am eu hamynedd yn ystod yr uwchraddio.

Mae cyffordd Pwll-y-pant yn cysylltu trefi megis Ystrad Mynach a Bargoed â Chaerffili, Caerdydd a Chasnewydd.

Ar un adeg roedd adroddiadau o draffig yn ymestyn hyd at chwe milltir gyda rhai gyrwyr yn gorfod disgwyl am bum awr yn ystod oriau brig.

Ond bellach mae'r cyngor yn gobeithio y bydd y drefn newydd a fydd yn cynnwys goleuadau traffig yn lleddfu'r tagfeydd.

Mewn datganiad mae 'na rybudd i yrwyr gymryd gofal ddydd Llun gan fod "y drefn newydd ar y gylchfan yn eithaf gwahanol" ac mae rhybudd pellach y bydd rhai gyrwyr yn newid llain ar y funud olaf wrth iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r drefn newydd.