Galw am newid system goleuadau ar yr A5 yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd yn Sir Ddinbych wedi rhybuddio fod damwain angheuol yn anochel ar lôn yr A5 os na fydd gwelliannau i reolaeth y system oleuadau.
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, sy'n cynrychioli Llandrillo, mae system oleuadau Y Ddwyryd yn anniogel yn dilyn newidiadau i drefn y goleuadau.
Daw'r rhybudd ar ôl cynnydd yn y nifer y damweiniau ar y gyffordd.
Yn ôl Mr ap Gwynfor: "Mae pobl yn dweud wrthym yn gyson - mae 'na ddamweiniau ar y gyffordd hon wrth i rywun deithio o'r gorllewin o Gerrigydrudion at Gorwen ac am droi i'r A494 am Y Bala.
"Does 'na'm ffordd i reoli'r ceir sy'n troi ar y gyffordd ac mae ceir sy'n dod ymlaen o Gorwen am Cerrig felly yn taro mewn i'r rheiny sydd eisiau troi tuag at Y Bala.
"Mae'r damweiniau yn digwydd yn gyson ac mae'n amlwg fod angen gwneud rhywbeth er mwyn sicrhau fod 'na ddiogelwch ar y gyffordd."
Un gafodd ddamwain ar y gyffordd yn ddiweddar ydy Sian Roberts o Landderfel, oedd yn teithio gyda'i theulu pan fu gwrthdrawiad wrth iddi baratoi i droi am gyfeiriad Y Bala.
"Yn syml iawn 'sw ni'n licio gweld bod 'ne unai central reservation neu oleuadau ychwanegol yn dangos ei bod hi'n saff i bobl sy'n dod o gyfeiriad Cerrigydrudion i droi am Y Bala," meddai.
Wrth ymateb i'r pryderon dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae diogelwch ar y ffyrdd yn flaenoriaeth bennaf.
"Rydym wrthi'n cynnal adolygiad dros gyfnod o dair blynedd o'r terfynau cyflymder yng Nghymru i asesu pryderon diogelwch ar y rhwydwaith cefnffyrdd, ac mae'r darn hwn o'r A5 yn rhan o'r adolygiad.
"Byddwn yn cadw llygad arno ac yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau diogelwch a welwn."