Dinbych: Galw am 'fwy o blismyn' i ddelio â thwf lladrata
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion busnes yn Ninbych yn galw am fwy o gamerâu teledu cylch cyfyng a mwy o blismyn ar eu strydoedd.
Daw'r galw yn dilyn cyfres o ladradau yn y dref ar ôl i chwe siop gael eu difrodi ac arian wedi ei ddwyn yn y bythefnos ddiwethaf.
Yn ôl yr heddlu mae rhagor o swyddogion ar batrôl yn y dref ac mae un dyn wedi'i arestio mewn cysylltiad â difrod a wnaed yr wythnos diwethaf.
Ddydd Llun fe gafodd Siop Clwyd ar stryd fawr Dinbych ei ddifrodi. Aeth lladron ati i geisio defnyddio bar haearn i agor y drws cyn mynd ati i dorri'r ffenest.
'Tref hyfryd'
Yn ôl perchennog y siop, Martha Cordiner mae'n gyfnod "ofnadwy o rwystredig, i'r busnes" ar hyn o bryd.
Yn nhrefi gerllaw fel Y Rhyl, Rhuddlan a Phrestatyn, mae 'na system camerâu cylch cyfyng mewn lle, sy'n cael ei ariannu gan y tri cyngor tref, Heddlu'r Gogledd a Chyngor Sir Ddinbych.
Mae'r camerâu yma'n cofnodi - drwy'r amser, a'r lluniau'n cael eu monitro gan wasanaeth sydd wedi'i leoli yng Nghaer.
Yn ôl y cynghorydd sir sy'n cynrychioli Canol Dinbych, Gwyneth Kensler, "Mae nhw'n costio ond mae dyfodol ein trefi ni ac ein cymunedau ni'n bwysig, efallai bydd na grantiau ar gael.
"Dio ddim yn deg ar y dref, mae hon yn dref hyfryd i fyw ynddi," meddai.