Teithiwr â gafodd ei wasgu ar awyren yn colli ei achos

  • Cyhoeddwyd
Stephen ProsserFfynhonnell y llun, Welsh News Service
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Mr Prosser ei achos yn erbyn British Airways

Mae dyn o Donypandy wedi colli ei achos gwerth £10,000 yn erbyn British Airways ar ôl iddo honni fod o wedi ei anafu ar ôl gorfod eistedd wrth ymyl dyn oedd yn ordew.

Yn ôl Stephen Prosser, cafodd ei anafu ar y siwrne 13 awr rhwng Bangkok a Maes Awyr Heathrow yn Llundain ar ôl cael ei wasgu i eistedd mewn ffordd anghyfforddus.

Dywedodd Mr Prosser ei fod wedi colli cyflog oherwydd yr achos.

Ond yn ôl y Barnwr Andrew Barcello, roedd Mr Prosser yn "gor-ddweud" yr effaith.

'Gwasgu'

Dywedodd Mr Prosser ei fod wedi cael ei "wasgu yn erbyn waliau'r awyren" ar ôl i'r dyn oedd yn 22 stôn eistedd wrth ei ymyl.

"Fe wnaeth hyn orfodi i mi eistedd mewn eistedd mewn ffordd annaturiol," dywedodd.

Clywodd Llys Sirol Pontypridd sut y gwnaeth Mr Prosser gwyno i'r cwmni awyren drwy lythyr yn gyntaf.

Er y cwynion dywedodd y barnwr nad oedd unrhyw dystiolaeth o "amharu corfforol" i weld.

Dywedodd gallai anafiadau Mr Prosser wedi dod o ganlyniad i "broblemau presennol" neu oherwydd ei fod yn "amharod i symud".

Yn dilyn yr achos dywedodd llefarydd ar ran Brisith Airways: "Rydym yn hapus i weld fod y llys wedi dyfarnu fod Mr Prosser wedi cael digon o le i deithio'n gyfforddus."