Prosiect arbennig i adnabod mannau trydan ceir
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymgyrch i annog mwy o bobl i ddefnyddio ceir trydan, er mwyn lleihau effaith newid hinsawdd, wedi cael hwb ariannol.
Bydd prosiect £8.5m yn galluogi peirianwyr i adnabod y mannau mwyaf tebygol lle bydd angen pwyntiau gwefru ceir.
Ar yr un pryd byddant yn gallu darogan pa effaith gawn nhw ar y grid ac ar y galw am drydan.
Bydd y cynllun yn cael ei dreialu yng ngogledd Cymru a Glannau Mersi, Sir Gaer a rhannau o'r Gororau.
Y bwriad yw defnyddio gwybodaeth am drafnidiaeth a siwrneau gyda gwybodaeth y cwmni trydan am y rhwydwaith er mwyn adnabod llefydd lle bydd angen pwyntiau gwefru ceir.
Y gobaith yw y bydd y syniad yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau eraill o'r wlad ar ôl cael ei dreialu yma.
Croesawu
Daw £6.85m o'r cyfanswm gan y rheoleiddiwr ynnu, OFGEM, a'r gweddill gan gwmni Scottish Power (SP Energy Networks).
Mae'r cynllun wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Lesley Griffiths AC, sydd â chyfrifoldeb dros ynni yn y cabinet: "Rydym eisoes yn gweithio efo Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ac ar draws y llywodraeth i sicrhau fod Cymru'n cael budd o'r newid sy'n digwydd yn y system ynni ar hyn o bryd.
"Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio efo SP Energy Netwoks i baratoi gogledd a chanolbarth Cymru ar gyfer cerbydau trydan, ac i ddatblygu camau newydd sy'n mynd i fod o fudd i Gymru gyfan a'r DU."
Mae disgwyl i'r prosiect ddechrau ym mis Ionawr.
Dywedodd Frank Mitchell, prif weithredwr SP Energy Networks: "Am y tro cyntaf ym Mhrydain byddwn yn uno disgyblaethau cynllunio trafnidiaeth a chynllunio'r rhwydwaith drydan i ganfod lle bydd angen pwyntiau gwefru ceir, a'r effaith y caiff hynny ar y rhwydwaith.
"Bydd hyn yn arwain at well cynllunio rhwydweithiau trydan ac yn rhoi gwybodaeth angenrheidiol i bob sector sy'n helpu yn y broses o newid i drafnidiaeth carbon isel."