Yr Urdd i ddilyn arbrawf y Brifwyl gyda maes am ddim

  • Cyhoeddwyd
Logo Croeso

Bydd Eisteddfod yr Urdd 2019 yng Nghaerdydd yn dilyn esiampl y Brifwyl yn y brifddinas ac yn cynnig mynediad am ddim i'r maes.

Cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal ym Mae Caerdydd eleni, gan hepgor maes a phafiliwn traddodiadol a defnyddio adeiladau'r ardal yn lle hynny.

Dywedodd y trefnwyr fod yr arbrawf wedi bod yn llwyddiant, gydag amcangyfrif bod tua 500,000 wedi ymweld â'r ŵyl o'i gymharu â'r 150,000 sy'n ymweld ar wythnos arferol.

Ond fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd gyhoeddi bod yr ŵyl yn 2018 wedi gwneud colled ariannol o £300,000 - yn rhannol oherwydd costau diogelwch uwch.

'Am ddim i bawb'

Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 27 Mai a 1 Mehefin 2019.

Wrth gadarnhau y bydd yr Urdd yn dilyn patrwm tebyg, dywedodd llefarydd ar ran y mudiad ieuenctid: "Gallwn gadarnhau y bydd mynediad rhad ac am ddim i bawb fwynhau maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019.

"Yn ogystal, bydd bob cystadleuydd a phawb o dan 18 oed yn cael mynediad am ddim i holl leoliadau cystadlu a pherfformio, gan gynnwys y pafiliwn.

"Rhannwyd y wybodaeth hon rhwng stondinwyr yr ŵyl yn barod. Bydd yr Urdd yn gwneud cyhoeddiad swyddogol am hyn, ynghyd â holl fanylion costau mynediad ar 10 Rhagfyr, pan fydd ein system gofrestru ar gyfer yr holl gystadlu yn mynd yn fyw ar-lein."