Eisteddfod yr Urdd y Bae am fod yn 'wahanol i'r Brifwyl'

  • Cyhoeddwyd
aled sion
Disgrifiad o’r llun,

Mae pethau'n "symud yn hwylus" ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2019 medai Aled Siôn

Mae cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd wedi dweud ei fod yn ffyddiog na fydd eisteddfodwyr wedi cael digon ar Fae Caerdydd erbyn i'r ŵyl ieuenctid fynd yno yn 2019.

Wrth i'r ŵyl yn Llanelwedd ddirwyn i ben, dywedodd Aled Siôn y byddai'r un nesaf ym Mae Caerdydd yn "hollol wahanol" i'r Brifwyl fydd yn cael ei gynnal yn y brifddinas eleni.

Fis Awst eleni bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â'r Bae, cyn i ŵyl yr Urdd gael ei chynnal yno'r flwyddyn nesaf am yr ail waith mewn degawd.

Yn 2016 dywedodd Mr Siôn fod gan y mudiad yr hawl i gynnal Eisteddfod yn y Bae unwaith pob pedair blynedd fel rhan o'u cytundeb gyda Chanolfan y Mileniwm, ond eu bod wedi penderfynu gohirio mynd 'nôl yno nes 2019 i barhau i fynd â'r ŵyl ar daith.

Bryd hynny dywedodd eu bod am "fynd i'r bae o leiaf unwaith yn oes pob plentyn fel eu bod nhw'n cael y profiad i geisio cystadlu neu berfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm".

'Cystadlu yw popeth'

Dyw Aled Siôn ddim yn pryderu llawer fod Eisteddfodwyr brwd yn ymweld â Chaerdydd ddwywaith o fewn dwy flynedd, gan ddweud fod Eisteddfod yr Urdd yn "hollol wahanol" i'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Yr unig beth sy'n debyg yw'r gair Eisteddfod," meddai.

"Cystadlu yw popeth yn Eisteddfod yr Urdd, heb y cystadlu fydde 'na ddim Eisteddfod. Pe baech chi'n tynnu'r cystadlu o'r Eisteddfod Genedlaethol mi fase'r Eisteddfod dal yn bodoli fel gŵyl.

"Felly rydan ni'n dibynnu ar gystadleuwyr ac mae ymchwil gennym ni yn dangos fod bron i 70% o'n cwsmeriaid ni'n dod oherwydd y cystadlu.

"Yr her i ni yw cael y gynulleidfa i gystadlu yn yr Eisteddfodau cylch a sir yn hytrach na dod i Gaerdydd ei hunan."

Canolfan y Mileniwm
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ŵyl yn defnyddio cyfleusterau Canolfan y Mileniwm

Bydd strwythur Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd ychydig yn wahanol i'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2018.

Fe fydd pobl sy'n dymuno mynychu Eisteddfod yr Urdd yn talu ffi i fynd mewn i'r maes, fydd wedi'i amgylchynu gyda ffens, sy'n wahanol i'r gofod rhydd fydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mi fydd gennym ni ffens fel 2005 a 2009, mi fydd rhaid talu i ddod fewn a hynny am resymau ariannol a diogelwch," meddai Mr Siôn.

O ran dychwelyd i Gaerdydd, yn ôl Mr Siôn mae manteision "gan ein bod yn gwybod ble mae popeth yn mynd".

Ychwanegodd: "Mae pethau'n mynd yn dda iawn, mi fydd hi'n Eisteddfod wahanol i'r arfer.

"Mae adeiladau parhaol sy'n eiddo i bobl eraill, felly mae rhaid trafod a rhaid cytuno. Mae pawb yn gwybod beth yw'r footprints ac mae pethau'n symud yn hwylus."

O ran ariannu'r Eisteddfod, ni fydd Pwyllgor Gwaith nag ymgyrch codi arian ar gyfer 2019 ac yn ôl Mr Siôn mi fydd hi'n Eisteddfod fwy "cenedlaethol".

'Digon o gynulleidfa'

"Mi fydd y gwario'n wahanol," meddai. "Unwaith bydd yr Eisteddfod Genedlaethol allan o ffordd, cynnal y cyhoeddi yn y Barri ym mis Hydref a bydd ychydig mwy o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth.

"Dim gymaint o wariant ar elfennau rydym yn ei wneud yn draddodiadol, dim trac fyrdde, ac yn draddodiadol mae Eisteddfodau yng Nghaerdydd wedi bod yn boblogaidd o safbwynt ymwelwyr.

"Rydym yn gwybod beth sy'n wynebu ni, y brif her yw bod Bae Caerdydd yn datblygu ac mae'n bwysig sicrhau ein bod yn rhoi'r cystadlaethau mwyaf addas yn y llefydd mwyaf addas a chael digon o gynulleidfa a lle iddyn nhw.

"Rwyf wedi dweud o'r blaen bod y profiad o fynd ar lwyfan Canolfan y Mileniwm yn fythgofiadwy i'r bobl ifanc."