Arriva wedi mynd 'tu hwnt i ofynion cytundebol'
- Cyhoeddwyd
Mae Arriva Trains Wales wedi amddiffyn eu hunain yn sgil beirniadaeth am ddiffyg gwaith cynnal a chadw ar eu trenau.
Mae Trafnidiaeth Cymru, sydd yn gyfrifol am wasanaeth rheilffordd Cymru a'r Gororau ers mis Hydref, wedi gorfod amharu ar eu gwasanaeth oherwydd cyflwr rhai o'r trenau.
Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, nad oedd y trenau wedi cael eu cadw mewn cyflwr cystal a'r disgwyl.
Yn ôl Arriva fe aethon nhw tu hwnt i'w gofynion cytundebol.
Yn ôl Keolis-Amey, contractwyr Trafnidiaeth Cymru, nid oedd chwarter eu trenau yn weithredol ar un adeg ac maen nhw wedi rhybuddio cwsmeriaid y gall gwasanaethau gael eu heffeithio tan ganol mis Rhagfyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Arriva fod y cwmni wedi buddsoddi £30m dros y pymtheg mlynedd yr oedden nhw'n gyfrifol am y gwasanaeth.
"Fe adawon ni'r rhwydwaith mewn cyflwr llawer cryfach a fwy diogel i gymharu â phan gyrhaeddon ni," meddai.
Honnodd fod y cwmni wedi ymddwyn "yn ddidwyll" wrth i'r cytundeb ddod i ben, ac wedi annog y rheolwyr newydd i "weithio gyda ni er mwyn sicrhau newid mor llyfn â phosib".
Ychwanegodd: "Fe weithredon ni'r cynllun paratoi ar gyfer yr hydref yn llawn, a drwy wneud hynny, cynyddu'r gwariant ar waith cynnal a chadw i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
"Yn yr achos yma, ac achosion eraill, rydyn ni wedi mynd tu hwnt i'n gofynion cytundebol."
Ar ddydd Iau, dywedodd rheolwyr trafnidiaeth wrth bwyllgor y cynulliad nad oedden nhw'n siŵr beth oedd yn gyfrifol am achosi cymaint o niwed i drenau Trafnidiaeth Cymru.
Yn ôl Mr Price mae disgwyl i nifer o'r trenau fod yn weithredol "o fewn y dyddiau nesaf".
Ychwanegodd: "Ni chafodd y trenau eu cadw mewn cyflwr cystal ag y gallan nhw.
"Roedden ni'n ymwybodol o hynny, ond dwi'n credu fod y sefyllfa yn waeth na'r disgwyl i ddweud y gwir."
'Ymdrech enfawr'
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Trafnidiaeth Cymru y bydd eu gwasanaeth yn gwella ar draws Cymru dros y pythefnos nesaf.
Bydd gwasanaethau ar reilffordd Wrecsam-Bidston yn dychwelyd i lefelau arferol o ddydd Llun, 3 Rhagfyr ymlaen, a bydd y gwasanaethau eraill sydd wedi cael eu canslo yn cael eu hadolygu bob dydd.
Yn dilyn "ymdrech peirianneg enfawr" mae nifer y trenau sydd yn weithredol wedi codi 10% ers dydd Llun.
Mae Network Rail a Trafnidiaeth Cymru wedi lansio ymchwiliad ar y cyd i ddeall pam bod tywydd yr hydref wedi achosi cymaint o ddifrod i'r fflyd.
Ychwanegodd Mr Price: "Rydyn ni'n gwybod ei bod hi wedi bod yn gyfnod anodd i'n teithwyr, ac rydyn ni eisiau diolch iddyn nhw am eu hamynedd."
"Ein prif ffocws nawr ydy deall beth aeth o'i le, a gwneud popeth gallwn ni i rwystro hynny rhag digwydd eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd23 Mai 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018