Cwynion am wasanaeth Trenau Arriva Cymru'n cynyddu 30%

  • Cyhoeddwyd
Trên yng ngorsaf canolog Caerdydd yn ystod tywydd gaeafolFfynhonnell y llun, Trenau Arriva Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Canslo teithiau oherwydd y tywydd oedd yn gyfrifol am fwyafrif y cwynion, medd Arriva

Mae ffigyrau'n dangos cynnydd o bron i 30% mewn blwyddyn yn nifer y cwynion am brif gwmni rheilffordd Cymru.

Roedd 66 o gwynion i bob 100,000 o deithiau ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru - sy'n golygu fod y cwmni yn y chweched safle ar restr nifer y cwynion yn erbyn cwmnïau rheilffordd Prydain.

Prydlondeb a threnau gorlawn oedd y prif resymau dros gwyno.

Dywedodd Arriva mai'r angen i ganslo gwasanaethau yn sgil tywydd eithafol oedd yn bennaf gyfrifol am y cynnydd.

Bydd y cwmni'n rhoi'r gorau i redeg gwasanaethau trên Cymru a'r Gororau eleni.

Mae ystadegau'r rheoleiddiwr annibynnol ORR, (Office of Rail and Road) ar gyfer 2017-18 yn dangos fod nifer y cwynion i Arriva wedi codi 28% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd y cwmni ymhlith y gwaethaf trwy Brydain o ran ymateb i gwynion o fewn 20 diwrnod - y cyfnod arferol o fewn y diwydiant.

Fe atebodd 76% o gwynion o fewn 20 diwrnod - sy'n gwella ar y ffigwr o 64% yn 2016-17.

Prydlondeb oedd testun 34.7% o'r holl gwynion - er roedd canran y flwyddyn flaenorol yn uwch, sef 45.2%.

Mae ffigyrau'n dangos fod 92.2% o drenau'n cyrraedd yn brydlon - cynnydd o 0.4% mewn blwyddyn.

Cwynion am ddiffyg lle ar drenau oedd yn ail ar y rhestr gyda 12% o'r cyfanswm - oedd yn cymharu â 9.5% yn 2016-17.

Dydy'r ystadegau ddim yn cynnwys cwynion ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd Bruce Williamson o'r grŵp ymgyrchu Railfuture ei bod yn "siomedig pan nad yw gwasanaethau i gwsmeriaid yn ddigonol".

"Gyda rhai o'r problemau ry'n ni wedi eu cael ar y rheilffyrdd, fe allai'r cwmnïau trên - gyda rhywfaint o gyfiawnhad - ddadlau bod rhywun arall ar fai," meddai.

"Ond pan ddaw i roi gwasanaeth sylfaenol i gwsmeriaid, fel ymateb i gwynion, mae hynny yn gyfan gwbl yn nwylo Arriva a does dim esgus am hynny.

"Yn ddiamau, mae gorlenwi'n broblem bron â bod ar draws y rhwydwaith. Mae diffyg cerbydau'n parhau, ac i ryw raddau mae hynny allan o ddwylo Arriva oherwydd maen nhw'n derbyn cerbydau gan y Weinyddiaeth Drafnidiaeth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Arriva fod tywydd eithafol yn yr hydref ac yn gynharach eleni wedi eu gorfodi i ohirio neu ganslo teithiau, a bod cynnydd yn arbennig wedi Storm Emma yn nifer y teithwyr wnaeth geisio hawlio arian yn ôl.

Dywedodd pennaeth profiad cwsmeriaid y cwmni, Barry Lloyd fod ystadegau eraill yn awgrymu eu bod yn drydedd yn y tabl trwy'r DU o ran bodloni cwsmeriaid oedd wedi cwyno, ac yn seithfed o ran ennyn canmoliaeth.

Roedd y cwmni wedi cael canmoliaeth deirgwaith i bob 100,000 o deithiau - a dywedodd Mr Lloyd bod arolwg yn awgrymu fod 43% o deithwyr Arriva'n fodlon gyda'r canlyniad ar ôl cyflwyno cwyn.

'Trenau'n fwyfwy prysur'

Ar ben hynny, dywedodd bod arolwg mwyaf diweddar NRPS (National Rail Passenger Survey) yn dangos fod 80% yn fodlon o ran prydlondeb a 70% o ran faint o le oedd ar drenau.

"Rydym yn cydnabod fod trenau'n fwyfwy prysur wrth i nifer y teithwyr godi'n aruthrol o 18 miliwn yn 2003 i 33.5 miliwn y llynedd, ac mae cydnabyddiaeth bod prinder cerbydau disel yn y DU ar hyn o bryd," meddai Mr Lloyd.

"Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wella'r sefyllfa gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru wrth symud at ddiwedd y cytundeb."

KeolisAmey fydd yn gyfrifol am wasanaethau trên Cymru o fis Hydref pan ddaw cytundeb Arriva i ben, ac mae wedi dweud y bydd 95% o'r teithiau ar 148 o drenau newydd erbyn 2023.