Annog atal y defnydd o olew palmwydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
olew palmwydd
Disgrifiad o’r llun,

Olew Palmwydd yn cael ei wneud yn Nigeria

Mae Llywodraeth Cymru am annog busnesau i roi'r gorau i'r defnydd o olew palmwydd yn eu cynnyrch a phrosesau.

Mae olew palmwydd yn cael ei ystyried yn niweidiol iawn i'r amgylchedd, ac mae'r Llywodraeth am ddilyn esiampl siop fwyd Iceland, sydd wedi cymryd safiad yn erbyn ei ddefnyddio.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates ei fod am i gwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru roi'r gorau i ddefnyddio'r olew, sydd wedi ei gysylltu gyda phroblemau fel datgoedwigo, difrodi cynefinoedd, newid hinsawdd, creulondeb i anifeiliaid a chamddefnyddio hawliau cynhenid.

Er mwyn cyrraedd y nod yma, ei fwriad yw gwneud newidiadau i Gontract Economaidd Llywodraeth Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n ceisio cymorth gan Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gytundeb sydd wedi'i gynllunio i sbarduno ymddygiad busnes cyfrifol.

Dywedodd Mr Skates: "Mae'r difrodi sy'n cael ei achosi gan ddefnyddio olew palmwydd mewn ffordd sy'n gwneud drwg i'r amgylchedd yn amlwg yn y newyddion ar hyn o bryd, a hoffwn dalu teyrnged i'r archfarchnad Iceland, Greenpeace ac eraill am eu gwaith yn codi proffil y mater pwysig hwn.

"Mae'r ymgyrch yn erbyn defnyddio olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd yn cyd-fynd ag ethos fy Nghynllun Gweithredu Economaidd, ac mae sbarduno twf cynaliadwy ac annog busnesau i ymddwyn yn gyfrifol yn greiddiol iddo.

"Mae'r Contract Economaidd yn ddull amlwg o ddylanwadu ar ymddygiad busnesau ac annog ymddygiad cyfrifol.

"O gofio hynny, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion edrych ar sut y gallwn ddefnyddio'r Contract Economaidd i annog a help cwmnïau i roi'r gorau i ddefnyddio olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd, a helpu i leihau'r defnydd o'r cynnyrch niweidiol hwn sy'n peri'r fath ddifrod."

Bwyd a diod

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried sut y gall leihau'r defnydd o olew palmwydd sy'n ddrwg i'r amgylchedd mewn bwyd a diod sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: "Mae effaith olew palmwydd sy'n cael ei gynhyrchu mewn modd anghynaladwy yn dod yn fater y mae'r cyhoedd yn ymwybodol iawn ohono.

"Mae'r llywodraeth a'r Diwydiant Bwyd a Diod wedi ymrwymo i hyrwyddo cynaliadwyedd.

"Rydym am annog y diwydiant bwyd a diod i ddefnyddio olew palmwydd sydd wedi'i gaffael yn gynaliadwy, a bydd hyn yn amlwg yn ein hymgynghoriad ar y cyd yn ystod gwanwyn 2019 ar olynydd i'r cynllun gweithredu bwyd a diod."