A welsoch chi farcud coch... gwyn erioed?

  • Cyhoeddwyd
Barcud Coch GwynFfynhonnell y llun, Sion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llun barcud coch gwyn gafodd ei dynnu yn 2011

Y barcud coch ydi un o'n hadar mwyaf eiconig, ond mae un gwyn wedi ei weld yng Nghymru'r gaeaf yma.

Tynnwyd llun ohono a'i yrru at raglen Radio Cymru Galwad Cynnar.

Tydi'r lleoliad na'r llun ddim yn cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd er mwyn gwarchod yr aderyn.

Ond beth yn union sy'n achosi barcud coch gwyn?

Creu cymhlethdod i adar eraill

Yn ôl y naturiaethwr Ian Keith diffyg pigment yn y plu sy'n gyfrifol am y lliw, ond nad albino ydi'r aderyn - sy'n fwy prin - gan fod lliw du i'w weld yn y llygaid.

Meddai: "Weithiau, pan mae 'na aderyn fel hyn, tydi'r rhywogaethau eraill ddim yn ei adnabod.

"Efo'r paen er enghraifft, mae paen gwyn yn syfrdanol ac mae'n enetig ac mae'r adar eraill yn ei licio fo, ond tasa ti'n cael kookaburra, efo albinism neu leucistic (diffyg pigment) tydi'r adar eraill ddim yn gwneud dim byd efo fo.

"Tydi bod yn wyn ddim yn fantais i'r aderyn achos mae'n haws i'w weld ac mae adar ysglyfaethus yn gallu eu bwyta.

"Ond oherwydd bod y barcud yma ar y pinacl - fo ydi'r creadur ysglyfaethus - tydi o ddim wedi amharu dim arno fo. Ond dwn i ddim sut mae adar barcutiaid eraill yn ymateb i'r fath beth."

Ffynhonnell y llun, Sion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Sion Jones y barcud coch gwyn yma yn 2011

Yn dilyn y drafodaeth ar y rhaglen fe wnaeth un o'r gwrandawyr yrru llun o farcud tebyg welodd o yn y canolbarth rai blynyddoedd yn ôl.

Meddai Sion Jones, o Abergele: "Doedd yr un gwyn ddim yn boblogaidd efo'r barcutiaid eraill. Roedd o'n dod lawr ac yn targedu darn o gig, ac roedd 'na aderyn arall yn ei stopio.

"Fues i yn ôl yno haf diwethaf, a doedd y barcud gwyn ddim yno. Pwy a ŵyr lle mae o erbyn hyn?"

Achub y barcud coch

Ffynhonnell y llun, ullstein bild
Disgrifiad o’r llun,

Y barcud coch arferol - golygfa gyffredin yng Nghymru erbyn hyn

Hanner canrif yn ôl roedd y barcud bron â diflannu o Brydain, gyda dim ond ambell bâr yn nythu yng Nghymru.

Ar ôl blynyddoedd o waith cadwraethol maen nhw nawr i'w gweld mewn sawl ardal o Brydain ac yn olygfa gyffredin mewn rhannau o Gymru... ond rhai coch, nid gwyn.

Hefyd o ddiddordeb: