Llyfr i ddathlu chwarter canrif o raglen Galwad Cynnar

  • Cyhoeddwyd
Gerallt PennantFfynhonnell y llun, GWASG CARREG GWALCH
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gerallt Pennant wedi bod yn cyflwyno Galwad Cynnar ers 20 mlynedd

Chwarter canrif ers dechrau darlledu ar donfeddi Radio Cymru, daeth gwrandawyr un o raglenni mwyaf poblogaidd yr orsaf ynghyd nos Iau i lansiad llyfr arbennig.

Mae Galwad Cynnar wedi bod yn rhan annatod o amserlen fore Sadwrn Radio Cymru ers y rhaglen gyntaf ym mis Hydref 1993.

Mae'r rhaglen, sydd bellach yn cael ei chyflwyno gan Gerallt Pennant, yn cynnwys rhai o naturiaethwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

I ddathlu'r pen-blwydd, mae cyn-gynhyrchydd y rhaglen am dros 15 mlynedd, Aled P Jones wedi ysgrifennu cyfrol sy'n hel atgofion o deithiau cofiadwy a hanes y rhaglen.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth criw Galwad Cynnar ynghyd yng nghlwb Hwylio Caernarfon i ddathlu lansio llyfr am y rhaglen

Dywedodd Mr Jones: "Mae ceisio olrhain hanes cynnar Galwad braidd fel chwilio am bluen o stêm mewn carthen o niwl.

"Cymysgedd o gerddoriaeth a sgyrsiau oedd yn y rhaglenni cynharaf gan fwyaf, gyda phytiau o natur a chefn gwlad Cymru yn amlygu ei hun yn y sgyrsiau."

Richard Rees oedd cyflwynydd cyntaf y rhaglen, ond pan ofynnwyd i Mr Jones gymryd yr awenau fel cynhyrchydd daeth cyfle iddo roi "stamp ei hun" ar y rhaglen.

Daeth Mr Pennant, oedd yn cyfrannu i'r rhaglen gyda phecynnau natur ac amaeth yn gyflwynydd parhaol ar y rhaglen ar ôl ymadawiad Mr Rees.

Ychwanegodd Mr Jones fod y newid yn "gyfle i roi tipyn mwy o sylw i fywyd gwyllt yn y rhaglen, trwy leihau'r elfen gerddorol yn raddol a chanolbwyntio'r trafodaethau fwyfwy ar agweddau amrywiol o fyd natur a chadwraeth."

'Darlledu tu allan'

Mae'r botanegydd a'r colofnydd Bethan Wyn Jones yn un o gyfranwyr cyson y rhaglen, a dywedodd wrth Cymru Fyw mai "ymwneud â chyfraniad y gynulleidfa sy'n gwneud y rhaglen mor ddifyr".

Mae'r rhaglen yn croesawu llythyrau, e-byst a lluniau gan y gwrandawyr sy'n gofyn cwestiynau amrywiol am fyd natur.

Elfen arall bwysig o'r rhaglen yw'r darllediadau byw ar hyd a lled Cymru mewn lleoliadau gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Wyn Jones wedi bod yn cyfrannu'n gyson ar Galwad Cynnar ers 2002

Ers dros 15 mlynedd mae Mr Pennant wedi bod yn cyfarch gwrandawyr am 06:30 pob bore Sadwrn, ac ers ei raglen gyntaf, mae wedi recordio dros 1,000 o sgyrsiau garddio.

Dywedodd wrth Cymru Fyw fod y rhaglen yn "fwy na dim ond trafod", ond yn "arf hefyd i godi ymwybyddiaeth o bynciau pwysig iawn sy'n effeithio ein cynefinoedd a'r byd o'n cwmpas".

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddiolchodd Gerallt Pennant am waith cyn-gynhyrchydd Galwad Cynnar am dros 15 mlynedd Aled P Jones am y llyfr

"Mae radio wedi esblygu, mae gwrandawyr bellach dros y byd yn gallu anfon lluniau ar y pryd drwy e-bost neu oddi ar eu ffonau a recordio sain anifeiliaid cyn eu hanfon nhw i'r stiwdio," meddai Mr Pennant.

"Mae'r panel wedyn yn gallu trin a thrafod ac mae rhywun yn dysgu rhywbeth newydd pob wythnos bron.

"Beth sy'n braf hefyd yw clywed cyfranwyr Galwad Cynnar yn cael eu defnyddio ar raglenni eraill Radio Cymru yn rhinwedd eu harbenigedd."

'Mwy na dim ond rhaglen'

Wrth siarad yn y noson lansio'r llyfr ar ran BBC Radio Cymru, dywedodd uwch gynhyrchydd y rhaglen, John Roberts: "Mae Galwad Cynnar yn rhaglen arbennig iawn.

"Mae hi'n cynrychioli perthynas efo cymuned a gwlad, mae hi'n fwy na dim ond rhaglen. Hoffwn ddiolch yn bennaf oll i bawb sydd wedi ymwneud a'r rhaglen dros y 25 mlynedd diwethaf.

"Diolch hefyd i'r gwrandawyr a'r gynulleidfa sy'n aruthrol bwysig i lwyddiant y rhaglen."