Rhybudd melyn am dywydd garw

  • Cyhoeddwyd
glawFfynhonnell y llun, AFP

Yn oriau man fore Mercher fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rhybudd melyn am law trwm dros orllewin a de Cymru.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 07:00 a 12:00.

Fe ddywed y rhybudd bod disgwyl dŵr ar wyneb y ffyrdd yn debyg o wneud amodau gyrru yn anodd mewn mannau.

Mae disgwyl hefyd y bydd effaith ar drafnidiaeth gyhoeddus, gydag oedi neu ganslo gwasanaethau trenau a bysiau.

Yn y mannau y bydd y glaw ar ei drymaf, mae posibilrwydd o lifogydd mewn tai a busnesau.

Fe fydd bandiau o law trwm iawn yn croesi Cymru, gyda'r de a'r de orllewin yn gweld y glaw trymaf - hyd at 30-50mm yn disgyn mewn ardaloedd mynyddig.

Yr ardaloedd lle bydd y rhybudd mewn grym yw:

  • Pen-y-bont ar Ogwr;

  • Caerffili;

  • Sir Gaerfyrddin;

  • Ceredigion;

  • Merthyr Tudful;

  • Castell-nedd Port Talbot;

  • Sir Benfro;

  • Powys;

  • Rhondda Cynon Taf;

  • Abertawe.