Canolfan newydd £3m i adfywio canol tref Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Glan-yr-Afon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ganolfan ar bwys Afon Cleddau

Mae canolfan ddiwylliannol newydd, sydd wedi ei datblygu'n rhannol er mwyn adfywio canol tref Hwlffordd, yn cael ei hagor fore Gwener ar ôl buddsoddiad o £3m.

Fe fydd yna lyfrgell, oriel, canolfan wybodaeth a siop goffi yn rhan o Ganolfan Glan-yr-Afon sydd wedi cael ei datblygu yn hen adeilad y farchnad ar lannau afon Cleddau Wen yng nghanol y dref.

Bu'n rhaid i nifer o fusnesau oedd yn yr hen farchnad adleoli er mwyn datblygu'r ganolfan.

Yn ôl yr Aelod Cabinet dros yr Economi a Thwristiaeth, Paul Miller, fe fydd Glan-yr-Afon yn adnodd nid yn unig i Hwlffordd ond i Sir Benfro yn gyffredinol.

"Rwy'n edrych ymlaen at ddatblygiadau arloesol tebyg yn y dyfodol er mwyn cynorthwyo i adfywio canol ein trefi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y ganolfan yn gartref i lyfrgell y dref

Mae Cyngor Sir Penfro yn gobeithio y bydd y ganolfan newydd yn denu rhyw 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Dywedodd Mike Cavanagh, pennaeth gwasanaethau diwylliannol a thwristiaeth y sir: "Ry'n ni'n gobeithio y bydd Glan-yr-Afon yn chwarae rhan allweddol yn y broses o adfywio canol tref Hwlffordd."

Mae'r ganolfan yn cynnwys galeri sy'n cael ei redeg mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac fe fydd arddangosfa barhaol yno sydd yn adrodd stori Sir Benfro.

Fe fydd yr arddangosfa gychwynnol yn cynnwys gweithiau Syr Kyffin Williams ac yn dathlu canmlwyddiant geni'r artist o Fôn.

Fe fydd yna wybodaeth hefyd i ymwelwyr, ynghyd â siop goffi sydd yn gwerthu cynnyrch lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Rhan o'r oriel yng Nghanolfan Glan-yr-Afon