Band eang 'poenus o araf' yn rhwystro busnes yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhydian Thomas (ail o'r chwith) ac eraill yn cael cysylltiad mor araf â 0.5 megabit yr eiliad

Mae cyflymder isel band eang wedi gorfodi perchennog busnes i deithio 10 munud o'i gartref er mwyn gallu e-bostio cwsmeriaid.

Rhydian Thomas yw un nifer o drigolion Dyffryn Cothi, Sir Gaerfyrddin, sy'n dweud fod cyflymder band eang mor isel â 0.5 megabit yr eiliad (mye) yn creu rhwystrau yn eu bywydau personol a proffesiynol.

Yn ôl Mr Thomas "mae hi'n cymryd diwrnod llawn i lawrlwytho ffilm" ar hyn o bryd.

Dywedodd Openreach fod 95% o'r wlad bellach yn gallu derbyn gwasanaeth band eang cyflym.

Ar y funud mae tua 720,000 o dai yng Nghymru yn gallu derbyn band eang gyda chyflymder o hyd at 24mye, yn sgil cynllun Superfast Cymru.

Mae rhai wedi beirniadu'r cynllun am fod yn araf yn cael ei weithredu ac yn teimlo bod rhai cymunedau wedi eu hanghofio.

'Poenus o araf'

Ychwanegodd Mr Thomas fod y band eang "poenus o araf" yn achosi problemau niferus iddo.

"Dwi angen y we er mwyn derbyn e-bost ac ati ar gyfer fy ngwaith. Ond mae'r gwasanaeth mor araf ei bod hi'n cymryd am byth i agor gwefan.

"Os ydy hi'n bwrw gallwn ni golli'r cysylltiad yn gyfan gwbl, a dwi 'di colli cownt o faint o weithiau dwi 'di gorfod gyrru i Gaerfyrddin er mwyn defnyddio wifi am ddim mewn bwyty er mwyn gyrru e-bost."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl y pentref yn aml yn cael trafferth cysylltu â'r we

Dywedodd un o gymdogion Mr Thomas, John Burton, eu bod nhw rhwng 10 a 15 mlynedd y tu ôl i bawb arall o ran cyflymder.

'Loteri cod post'

Yn ôl y darlithydd busnes ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Robert Bowen, mae llawer o gynnydd wedi bod, ond mae mwy eto angen ei wneud i waredu'r "loteri cod post".

Mae Openreach yn gweithio ar gynllun newydd i gynnig band eang cyflymach fyth o'r enw fibre first, fydd yn cynnig band eang hyd at un gigabit yr eiliad.

Mae Abertawe yn un o'r dinasoedd sydd wedi ymrwymo i'r cynllun newydd.

Dywedodd Kim Mears, Rheolwr Gyfarwyddwr Openreach: "Rydyn ni eisoes wedi gwneud cymaint o waith wrth wella mynediad at wasanaeth band eang mewn ardaloedd dinesig a rhannau gwledig o'r wlad.

"Er gwaetha'r problemau sy'n gysylltiedig â chynllunio, gwaith ffordd a derbyn caniatâd, mae'n peirianwyr ni yn cyrraedd miloedd o dai a busnesau yn wythnosol."