Ymchwil yn dangos DNA unigryw gwiwerod coch

  • Cyhoeddwyd
Gwiwer goch

Mae ymchwilwyr wedi darganfod DNA unigryw mewn gwiwerod coch yn y canolbarth.

Dywed Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (YMBGG) mai dyma'r tro cyntaf i'r dilyniant DNA arbennig yma gael ei gofnodi yn y byd.

Casglwyd blew'r anifeiliaid ar un o fannau bwydo'r ymddiriedolaeth, ac o hynny adnabuwyd grŵp o enynnau newydd.

Mae YMBGG yn gobeithio y bydd y wybodaeth o gymorth yn yr ymgyrch i gynyddu niferoedd y creaduriaid.

Gwnaed y darganfyddiad ar ôl astudio samplau o flew a gasglwyd ar safle yn Llanddewi Brefi, Ceredigion.

Dadansoddwyd y samplau ac roeddynt yn dangos dau wahanol fath o 'haplotype' - nod genynnol sy'n galluogi gwyddonwyr i ddeall mwy am gyfansoddiad genynnol ac achau'r anifeiliaid.

Roedd un 'haplotype' eisoes yn wybyddus yng Nghymru ond nid oedd yr ail wedi cael ei gofnodi yn unman arall yn y byd cyn hyn.

Be mae hyn yn ei olygu?

Yn ol Becky Hulme, swyddog gwiwerod YMBGG mae'r darganfyddiad yn dangos bod cryn amrywiaeth yng ngenynnau gwiwerod coch y Canolbarth.

"Mae hyn yn golygu bod ein gwaith cadwraeth yn fwy tebygol o lwyddo oherwydd mae cael pwll genynnol eang ac amrywiol yn helpu poblogaethau i addasu i newidiadau i'w hamgylchedd.

"Mae'r unigolion yma'n fwy tebygol o oroesi a chael rhai bach a fydd hefyd efo'r genynnau buddiol yma."

"Mae ymchwil fel hyn yn ein galluogi i ddeall lle mae angen canolbwyntio ein hymgyrchoedd cadwraethol.

"Rydym yn falch iawn fod 'haplotype' arall wedi ei ddarganfod yma. Mae hyn yn awgrymu bod coedwigoedd y Canolbarth yn llefydd pwysig ar gyfer cadwraeth y wiwer goch yn gyffredinol."

Bydd YMBGG hefyd yn defnyddio'r wybodaeth i geisio annog partneriaid eraill y prosiect gwiwerod coch, megis tirfeddianwyr, Cyfoeth Naturiol Cymru a llywodraeth Cymru ynglŷn â gweithio tuag at ddiogelu bywyd gwyllt.