Bangor: Car yn 'anafu dynes yn ddifrifol cyn gyrru i ffwrdd'

  • Cyhoeddwyd
ffordd glynneFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Glynne ym Mangor

Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth wedi i ddynes ym Mangor gael ei tharo gan gar wnaeth wedyn yrru i ffwrdd.

Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Glynne am 19:44 nos Lun yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a cherddwr.

Dywedodd yr heddlu bod y ddynes wedi ei chludo i Ysbyty Gwynedd ag anafiadau difrifol, ac mae'n parhau yn yr ysbyty.

Mae'r llu nawr yn adolygu lluniau CCTV ac wedi apelio ar unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

"Mae'n hymchwiliadau ni'n parhau ac rydym yn gofyn i unrhyw un allai fod wedi gweld y cerbyd i gysylltu gyda ni," meddai'r Sarjant Raymond Williams o'r uned blismona ffyrdd.

"Y gred ydy ei fod yn gerbyd tywyll, o bosib Ford Mondeo neu rywbeth tebyg."