Un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol ger Llanelwy
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod gwrthdrawiad difrifol wedi digwydd ar ffordd ymadael cyffordd 27 yr A55 ger Llanelwy.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tu allan i westy Bod Erw rhwng car a beiciwr.
Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans cafodd un dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ychydig wedi 08:00 fore Mawrth.
Mae'r heddlu'n dweud fod tagfeydd sylweddol yn yr ardal ond fod y ffordd ymadael bellach ar agor.