Eich platiau rhif Cymreig chi!
- Cyhoeddwyd
Yn ddiweddar, gofynnodd Cymru Fyw i chi am eich esiamplau chi o blatiau rhif personol Cymreig - ac mae'n debyg fod y wlad 'ma yn llawn o blatiau rhif gwych a gwallgo'!
Mae'n amlwg fod 'na lawer o geir sydd yn adlewyrchu swyddi'r perchnogion
Roedd Sion Jones o Abergele yn gweithio fel dyn camera am flynyddoedd, ac wedi cael arddeall fod pobl yn ei alw yn Sion TV yn ei absenoldeb. Felly wrth gwrs, penderfynodd brynu'r plât perffaith er mwyn i bobl wybod pwy oedd perchennog y car - S10 NTV.
Er nad yw Rhodri Dwyfor o Gaernarfon yn bysgotwr bellach, mae dal yn gyrru cerbyd â'r plât rhif S90TWR.
Mae Dewi Thomas o Forfa Nefyn dal i fod yn saer coed, felly mae ei blât rhif Y5AER yn addas iawn!
Cysylltodd Emma Morris o Bontyberem i sôn am rif car ei mam - G4 REJ - sydd wedi bod yn y teulu ers sawl blwyddyn. Tad-cu Emma yw perchennog Garej Raymond ym Mhontyberem.
S10 PWR yw Selwyn Evans - ef yw perchennog Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug - felly mae ei gar yn adlewyrchu hynny!
A bachodd Geraint Jones o Trefor ar y plât perffaith - Y 13AND - gan mai ef yw Arweinydd Seindorf Trefor, ac wedi bod wrth y llyw ers bron i hanner canrif!
Mae eraill yn ceisio sicrhau fod enwau pobl sy'n agos at eu calon, yn agos atyn nhw bob amser
Efallai fod y rhif N11AWO yn anodd i'w ddeall i ddechrau, ond fel eglura'i berchennog, Owain Roberts o Ynys Môn, mae'n glir pan mae'r crl o'i flaen yn edrych yn ei ddrych! Mae gan Owain hefyd ei lygad ar Lamborghini welodd o unwaith yn Llundain, gyda'r rhif OWA11N arno. Un dydd efallai...!
Cysylltodd Sion Rees Williams o Dunstable i ddweud mae'n debyg fod y rhif DUW wedi cael ei wahardd gan yr awdurdodau wedi i rywun yn Abertawe gwyno yn y 1920au neu'r 1930au.
Merch Dafydd Williams o Lannerchymedd yw Lwsi Dafydd, ac mae'n teimlo'n ffodus iawn ei fod wedi llwyddo i brynu'r plât rhif LW51 DAF ar gyfer ei gar!
Ac fe gawson ni neges gan berchennog y rhif DI ENW - ond wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydi'r person yma...
Mae eraill yn dathlu o ble maen nhw'n dod
Meddai David Owen Roberts o Fotwnnog, mae ei blât rhif, PEN 117N, yn codi gwên ym mhob man: "Mae'n gwneud i mi chwerthin pob tro fyddai'n dod i gwfwr rhywun ac yn gweld nhw'n darllan y plât ac yn gweld y 'geiniog yn disgyn'!"
Mae Nia Griffiths o Ben Llŷn yn mwynhau gweld y platiau DW10 FON (Dwi o Fon) DW10 LYN (Dwi o Lŷn) yn gyrru o amgylch y lle.
Mae Ryan James o Landyfaelog yn byw ar fferm fach o'r enw Cilwg. Soniodd fod y plât rhif gydd ganddo wedi bod yn rhad dros ben, oherwydd wrth gwrs, pwy arall fyddai eisiau'r rhif C1LWG?
Heb anghofio y ceir cenedlaetholgar!
Mae gan Alun Thomas o Gasnewydd ddau blât Cymreig yn ei feddiant - C8MRU a C6MRU! Roedd wedi eu gweld ar wefan y DVLA 12 mlynedd yn ôl, ac wedi pendroni dros eu prynu am dros wythnos. "Es i nôl ar y wefan a gweld eu bod dal yna ac ar ôl cael y go ahead gan chief cashier y teulu, prynais y ddau!"
Ac wrth gwrs, mae rhai eisiau i bawb wybod beth yw eu hoff gân gan Delwyn Siôn, neu beth yw eu huchelgais mewn bywyd - mae Heulwen Jones yn gyrru fan sydd â'r rhif JO10 BYW!
Dyma'r rai o'r rhifau eraill sydd i'w canfod ar hyd ac ar lled Cymru a thu hwnt:
DR05 GYM
OS14NCG
BU57ACH
CA10 BJA
D10TWR
SES1WAN
AN14 BOB
1OLA
TR10 ETO
Y30 FON
T44 NCT
C18WYD
EL51 JOS
D1AWL
OW5 8EDS
PEN 117N
LL10DUD
W121 WAR
S100NED
L1EW
DR05 CYM
KEV 1N
D4 FAD
RHIANS
AF10 MON
C5MRO
GOF4L
AN14 MAM