Beth mae rhif eich car yn ei ddweud amdanoch chi?
- Cyhoeddwyd
Rhifau neu blatiau cofrestru ceir. Mae pob un yn unigryw beth bynnag ond mae mwy nag erioed o yrwyr yn mynd ati i wneud eu ceir yn fwy unigryw fyth yn ôl asiantaeth trwyddedu y DVLA.
Mae nifer y bobl sy'n prynu plât personol yn cynyddu bob blwyddyn. Ond er bod llu o rifau sy'n gwneud enwau Cymraeg i'w gweld ar ein ffyrdd, prin yw'r platiau cofrestru sydd yn creu gair neu 'eiriau' Cymraeg. Felly pan welwch chi un, mae'n ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig!
Y rhif cofrestru mwyaf Cymreig?
Perchennog garej gwerthu ceir yn Y Ffôr ger Pwllheli yw Gwyn Griffith ac mae ganddo gasgliad o rifau diddorol a phrin. Yr un mwyaf Cymreig o'r cwbl yw B4RDD. Ond mae'n debyg nad pob bardd fyddai'n falch o'i gael ar ei gar.
Yn ôl Gwyn Griffith os bydd y Prifardd Myrddin ap Dafydd yn gadael ei gar yn y garej mi fydd y staff yn corddi'r dyfroedd a thynnu ei goes drwy roi'r car â'r plât B4RDD fel courtesy car iddo. Cyndyn iawn, iawn yw ein harchdderwydd newydd i yrru hyd lonydd Cymru gyda label mor amlwg arno, mae'n debyg!
Rhifau eraill sydd yn gwibio heibio i'r garej ar ffordd yr A499 yw N3FYN (nefyn) G4RDD (gardd) ac Y 5AER (y saer) ond nid yw'n gwybod pwy yw'r perchnogion. Ai chi piau un o'r rhifau hyn tybed?
Yn 2010 llwyddodd Myfyr Owen, perchennog garej Clwydian Cars, Dinbych i brynu plât cofrestru sy'n ein hannog i ddyfalbarhau - TR10 ETO. Yn ogystal mae ganddo blât a fyddai'n apelio'n fawr at ffermwyr lleol, BU57ACH.
Mae Dylan Thomas o Moduron Menai, Caernarfon, yn falch iawn o'r rhif D1NAS sydd wedi bod ganddo ers blynyddoedd.
Ei dad, Pete brynodd y rhif yng nghanol y 1980au ac meddai Dylan: "Dwi'n cofio bod diddordeb mawr yn y rhif ar y pryd gan gwmni teledu o Gaerdydd oedd yn ffilmio'r gyfres Dinas i S4C".
Llyfr yn anrheg pen-blwydd...
Ond nid ffasiwn diweddar ymysg perchnogion garej yw cael platiau personol. Dros 40 mlynedd yn ôl derbyniodd Geraint Lloyd Owen, y cyn-archdderwydd, y rhif L1YFR yn anrheg pen-blwydd. Ar y pryd roedd yn berchennog Siop y Pentan, siop lyfrau Cymraeg yng Nghaernarfon.
Rhifau eraill sydd wedi eu gweld ar lonydd y wlad yw MI5TEC yn Y Groeslon a DRA1G yng Nghaerdydd ac AR05 MAE. Rhif adnabyddus yn y gogledd orllewin am un cyfnod hefyd oedd DEW1N oedd ar gar deintydd lleol oedd hefyd yn gonsuriwr.
Tamaid o benbleth sydd gan Dafydd Povey, cigydd o Chwilog, gan ei fod yn barod â'r rhif personol iawn POV 1 ar ei fan ond mae bellach wedi prynu CHW110G ac yn meddwl newid un am y llall.
Mae'n rhaid bod cyfeiriad at gig ar blât yn bwysig i gigyddion Cymru. Ar faniau John Hughes Jones o Lanrug sydd â busnes cig a rhostio mochyn mae DYN 61G a C1 GDA.
Ym Mhontllyfni, Gwynedd mae dipyn o bishyn a rhif ei char hithau yw dim lla na P15HYN. Cafodd y rhif gan ei gŵr oedd yn un o ffans mwyaf y band Edward H Dafis!
Flynyddoedd yn ôl fe brynodd Medwyn Williams, y garddwr o Fôn, y rhif N10 NYN a oedd yn berffaith i ddyn yn ei faes. Ond bellach mae wedi mynd un cam yn well a phrynu YN10 NYN - camp yn wir, cael dau rif mor addas!
Gwerth y gost?
Ond beth yw cost cael rhif personol fel rhai o'r uchod? Mae'r DVLA yn hysbysebu rhifau personol am £250 ac uwch. Dyma i chi rai rhifau 'Cymreig' a werthwyd:
CAR 114D £1,200
CY07 MRU £550
RH14 NON £15,000
GW14 DYS £900
RHY 1L £1,200
Oes gennych chi rif car unigryw sy'n codi ael neu godi gwên!? Rhowch wybod i Cymru Fyw.