Rhybudd melyn am eira a gwyntoedd cryfion dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd/Getty Images

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd tywydd gwahanol ar gyfer Cymru dros y penwythnos.

Mae rhybudd melyn am law a gwyntoedd cryfion ar draws y rhan fwyaf o dde Cymru am 06:00 tan 18:00 ddydd Sadwrn.

Mae rhybudd melyn arall, 24 awr, am eira a rhew ar hyd canolbarth a gogledd Cymru rhwng 09:00 ddydd Sadwrn a 09:00 ddydd Sul.

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio y gallen nhw fynd i drafferthion a bod "posibilrwydd" i rai pobl golli cyflenwadau pŵer.

Dywed yr heddlu y dylai gyrwyr ar yr A55 yn y gogledd gymryd gofal oherwydd gwyntoedd cryfion.

Yn ôl Traffig Cymru mae'r tywydd yn effeithio ar y ffordd ddeuol rhwng cyffordd 11 yn Llandygai, Gwynedd, hyd at gyffordd 38 yng Nghaer.

Yn y de, cafodd cyflenwadau trydan eu heffeithio yn Llangatwg ger Castell-nedd wedi i goden gwympo gan ddifrodi gwifrau trydan.

Gyda nifer o ddigwyddiadau Nadoligaidd wedi'u trefnu ar draws y wlad fe allai rhai gael eu heffeithio, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae rhybuddion hefyd y gallai rhai tai ddioddef llifogydd o ganlyniad i'r tywydd gwlyb.