Rhybudd melyn am law yn rhannau o Gymru ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd melyn dydd Mawrth 18 RhagfyrFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd y gallai cyfnodau o law trwm achosi trafferthion yn rhannau o Gymru ddydd Mawrth.

Mae'r rhybudd melyn am law yn berthnasol i siroedd de a chanolbarth Cymru rhwng 05:00 a 21:00, ac mae disgwyl gwyntoedd cryf hefyd, yn arbennig ar hyd y glannau.

Yn ôl yr arbenigwyr, fe allai dŵr ar y ffyrdd achosi amodau anodd i yrwyr ac oedi i bobl sy'n teithio ar fysus a threnau.

Mae rhybudd hefyd bod nifer o dai a busnesau'n debygol o ddioddef llifogydd yn sgil tywydd gwlyb diweddar.

Fe allai'r gwynt hyrddio hyd at 40-50 mya yn y canoldir - a hyd at 50-65 mya mewn ardaloedd arfordirol.

Ond mae disgwyl y bydd y tywydd gwaethaf wedi symud tua'r dwyrain erbyn canol y prynhawn

Mae'r rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:

  • Abertawe

  • Blaenau Gwent

  • Bro Morgannwg

  • Caerdydd

  • Caerfyrddin

  • Caerffili

  • Casnewydd

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Ceredigion

  • Merthyr Tudful

  • Mynwy

  • Penfro

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Torfaen