Bar y Parrot, Caerfyrddin yn cau ei ddrysau am y tro olaf
- Cyhoeddwyd
Wrth ffarwelio â'r flwyddyn, bydd cwsmeriaid un o fariau mwyaf adnabyddus y de-orllewin yn dweud hwyl fawr wrth yr adeilad sydd wedi rhoi llwyfan i gerddorion ifanc Cymraeg.
Wedi brwydr i geisio cadw dau ben llinyn ynghyd, bydd y Parrot yng Nghaerfyrddin yn cau ei ddrysau ar ddiwedd parti Nos Galan, saith mlynedd ers ei sefydlu.
Agorodd drysau'r Parrot ar Heol Y Brenin yn 2011 gan ddatblygu i fod yn un o brif ganolfannau'r gorllewin ar gyfer amrywiaeth eang o gerddoriaeth fyw a nosweithiau comedi, o Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, Bromas, Y Ffug ac Ysgol Sul i'r comedïwyr Elis James a Daniel Glyn, Steffan Alun a llawer mwy.
Yn 2014, bu ymgyrch ar-lein i godi £11,000 i gadw'r Parrot ar agor.
Ond ddeufis yn ôl, dywedodd y bwrdd rheoli eu bod wedi ymdrechu hyd eithaf eu gallu i geisio cadw'r ganolfan ar agor, ond nad oedd hi'n bosib dal dau ben llinyn ynghyd.
Dros flwyddyn a hanner yn ôl, ffurfiodd Gruff Owen ei label recordiau ei hun, Libertino, ac mae'r Parrot wedi bod yn rhan ganolog o'i fenter.
"Mae'r Parrot wedi rhoi llwyfan i fandiau ac artistiaid newydd. Mae'n rhaid i ti ddysgu dy grefft, a dyna sydd wedi bod mor wych am y Parrot," meddai.
"Mae bandiau ac artistiaid mwy wedi dod yma, fel Euros Childs a Cate Le Bon a ma' hynny wedi ysgogi'r bandiau i feddwl - dwi'n gallu gwneud hyn hefyd.
"Bydden i ddim 'di dechre label Libertino heblaw am y Parrot. Fe wnaeth e ddechrau cynnau'r tân yndda'i, i fynd ati i ddechrau label ac i helpu'r bandiau yma."
Un o'r bandiau lleol a ffurfiodd oherwydd y Parrot yw Adwaith. Ac yn ôl un o'r aelodau, Gwenllian Anthony, mae'n golled enfawr.
"Mae'n rili trist - y Parrot yw'r unig venue sydd yn dre really," meddai.
"Ma' loads o bands yn dod o Gaerfyrddin a nawr 'sdim lle iddyn nhw chwarae, ond gobeithio neith rhywbeth newydd ddigwydd yn lle'r Parrot, rhywbeth cŵl.
"Bydden i ddim wedi bod mewn band heb y Parrot, bydden i byth 'di cwrdd â Heledd. Hollie a fi, o'n ni wastad yn dod i gigs Cymdeithas yn y Parrot. 'Na'r rheswm naethon ni ddechre.
"Oni bai am hynny, bydde ni byth 'di meddwl dechre band."
Fel Gruff Owen, mae Gwenllian Anthony - fu hefyd yn gweithio tu ôl i'r bar yn y Parrot am gyfnod - yn obeithiol y bydd modd llenwi'r bwlch wedi i'r Parrot gau.
"Mae digon o bobl greadigol yng Nghaerfyrddin sy mo'yn agor venue arall. Ma' digon o wmff i ddechre rhywbeth newydd."