Oedi i deithwyr wedi gwrthdrawiad M4 ger Port Talbot

  • Cyhoeddwyd
Traffig CymruFfynhonnell y llun, Traffig Cymru

Bu oedi i deithwyr ar yr M4 fore Iau yn dilyn gwrthdrawiad ger Port Talbot.

Cafodd dwy lôn eu cau i gyfeiriad y gorllewin rhwng C37 Y Pîl a C38 Margam.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod fan wedi taro'r rhwystrau yng nghanol y ffordd am tua 06:00.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu.