Cymry methu hedfan ynghanol trafferthion Gatwick
- Cyhoeddwyd
Mae sawl person o Gymru wedi disgrifio eu siom o fethu teithio o Faes Awyr Gatwick ar ôl i'w hediadau gael eu canslo wrth i'r heddlu barhau i geisio dal y sawl sy'n gyfrifol am hedfan drôn yn agos at y safle.
Mae ail faes awyr fwyaf prysur y DU wedi ail agor ddydd Gwener, gyda dros 140 o hediadau wedi eu canslo am resymau diogelwch.
Yn ôl yr heddlu, maen nhw'n amau fod y weithred yn un "fwriadol i amharu ar hediadau o'r maes awyr" ac nad yw'n weithred derfysgol.
Mae Tom Williams, 25 oed o Wrecsam, yn un sydd wedi cael ei effeithio ac wedi colli cannoedd o bunnoedd ar ôl i gwmni China Air ganslo hediad i Sydney, Awstralia nos Wener.
"Roeddwn yn fod i hedfan i Awstralia heno [nos Wener] am 21:00 gyda fy mhartner Sally sy'n wreiddiol o Sydney," meddai.
"Dyma fyddai'r Nadolig cyntaf i Sally dreulio gyda'i theulu ers dwy flynedd, felly mae'r ddau ohonom yn siomedig iawn na fyddwn yn mynd heno.
"Fe fuom ar wefan China Air bore 'ma a sylwi fod y flight wedi'i chanslo. Rydym wedi bod yn trio ei ffonio nhw drwy'r bore heb fawr o lwc.
"O'r diwedd fe gafon ni trwodd ac fe ddywedon nhw nad oedden nhw'n gwybod beth fyddai'n digwydd, roedd y cyfan yn dibynnu os fyddai awyren o Taipei yn gallu glanio yn Gatwick nes ymlaen.
"Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am flights eraill. Mae China Air wedi dweud wrach y cawn ni ein pres yn ôl, ond ar hyn o bryd fe fydd yn rhaid i ni brynu tocynnau eraill ac mae hynny'n ddrud iawn ar gymaint o fyr rybudd."
'Colli arian'
Yn ôl Mr Williams mae ef a'i bartner wedi colli mwy na ond yr arian am y tocynnau awyren.
"Roedden ni wedi talu £800 yr un am docynnau i hedfan i Taipei yn gyntaf wedyn ymlaen i Sydney, ond roeddem wedi talu i barcio yn Gatwick ac am westy agos i'r maes awyr - mae hynny i gyd wedi'i golli," meddai.
"Y cyfan allwn ni wneud rŵan ydi dal i chwilio. Rydym wedi gweld tocynnau yn hedfan o Fanceinion ddydd Sul ac yn dychwelyd Nos Calan, ond mae'r tocynnau yna'n £1,300 yr un.
"Rydym yn benderfynol o gyrraedd cyn diwrnod Nadolig er mwyn i Sally gael treulio'r Nadolig adref yn fwy na dim."
Dau arall a gafodd eu heffeithio oedd Rhodri Lewis a Sara Williams o Efail Wen, Crymych, oedd fod i hedfan o Gatwick i Milan yn Yr Eidal.
Ar ôl teithio i westy cyfagos cafodd y ddau wybod am 04:00 fore Mercher bod eu taith gydag easyJet wedi'i ohirio am amser amhenodol.
Cafodd y ddau gyngor i beidio â theithio i'r maes awyr nes oedd cadarnhad pendant am eu siwrne. Er hynny, am 07:00 penderfynodd y ddau fynd i'r safle i geisio canfod atebion.
"Doedd neb yn gwybod beth oedd yn digwydd," meddai Mr Lewis.
"Fe wnaethom ni fynd i'r maes awyr am 07:00 a wnaethon nhw ddweud ein bod ni'n cael teithio am 10:00.
"Ond aeth hi i 10:30 a daeth dim byd. Roedd pobl yn gorwedd unrhyw le y gallan nhw.
"Am 12:00 cawsom y cynnig i dderbyn talebion hedfan, ond doedden ni ddim yn cael ad-daliad.
"Fe gawson ni daleb o £220 ond mae'n rhaid eu defnyddio nhw o fewn y chwe mis nesaf, ac roedd rhaid canslo'r gwesty ym Milan.
"Dim bai y staff yw hyn, ond doedd neb yn gwybod beth oedd yn digwydd."
Mae pennaeth Maes Awyr Gatwick, Chris Woodroofe wedi cadarnhau nad yw'r heddlu wedi dal y sawl sy'n gyfrifol am hedfan y drôn eto.
Mae'r heddlu wedi dweud ei bod hi'n bosib mai ymgyrchwyr amgylcheddol sy'n gyfrifol.