Gwaith uwchraddio a thrafferthion trenau dros yr Ŵyl
- Cyhoeddwyd
Bydd teithwyr ar drenau i mewn ac allan o Gymru yn wynebu trafferthion dros Ŵyl y Nadolig wrth i'r gwaith o uwchraddio rheilffyrdd yn Lloegr barhau.
Y neges i unrhyw un sy'n bwriadu teithio yn ystod yr wythnos yw i wirio'r amserlenni cyn gadael a chaniatáu digon o amser ar gyfer pob siwrne.
Fe fydd Twnnel Hafren yn cau o ddydd Nadolig tan y flwyddyn newydd.
Bydd gorsafoedd Llundain sy'n gwasanaethu Cymru - Paddington ac Euston - hefyd yn cau ddydd Sul, Noswyl Nadolig a Dydd Calan.
Ni fydd gwasanaethau trenau o gwbl ar ddydd Nadolig a Gŵyl San Steffan.
Yn y gogledd ni fydd trenau cwmni Virgin yn rhedeg i, nac o Gaergybi a Wrecsam ar 24, 27 na 30 Rhagfyr oherwydd gwaith yng ngorsaf Euston.
Bydd gwasanaethau eraill o Gaergybi yn dod i ben yn Crewe.
Yn y de, mae'r cynllun i drydaneiddio'r lein - sydd i fod i gael ei gwblhau yn 2019 - yn golygu y bydd Twnnel Hafren ar gau rhwng 25 Rhagfyr a 1 Ionawr.
Yn ogystal, bydd gorsaf Paddington ar gau ar 23 a 24 Rhagfyr a 1 Ionawr, ac fe fydd gwasanaethau'n dod i ben yn Reading.
Bydd y gwaith hefyd yn cael effaith ar wasanaethau i gymoedd y de i mewn ac allan o Gaerdydd.
Dywedodd Bruce Williamson o'r grŵp ymgyrchu Railfuture: "Mae hwn yn achos o boen yn y tymor byr er mwyn lles y tymor hir, oherwydd nid gwaith cynnal a chadw yw hwn ond uwchraddio sylweddol.
"Ry'n ni'n gwerthfawrogi y bydd hyn yn achosi problemau i deithwyr, ond rhaid i'r gwaith gael ei wneud rhywbryd neu fe fydd y rhwydwaith drenau yn dod i stop."