Teyrngedau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i Paddy Ashdown

  • Cyhoeddwyd
Paddy AshdownFfynhonnell y llun, Reuters

Mae aelodau blaenllaw Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi talu teyrngedau i gyn arweinydd y blaid drwy'r DU, Paddy Ashdown.

Bu farw ddydd Sadwrn, wythnosau ar ôl cael gwybod bod canser y bledren arno.

Dywedodd cyn arweinydd y blaid yng Nghymru, yr Arglwydd Mike German bod yna "fwlch enfawr" ar ei ôl o fewn gwleidyddiaeth Prydain a bod yr Arglwydd Ashdown yn gefnogwr brwd o ddatganoli grym i Gymru.

Ac yn ôl arweinydd presennol y blaid Gymreig, Jane Dodds, roedd "yn ysbrydoliaeth i lawer" ac yn "wir gyfaill" i'r blaid yng Nghymru.

Egni ac asbri

Dywedodd yr Arglwydd German, cyn ddirprwy brif weinidog yn y Cynulliad: "Mae Paddy yn gadael bwlch enfawr yng ngwleidyddiaeth Prydain. Roedd yn gyfaill, yn awdur, ac yn fentor gwleidyddol gydol fy oes.

"Fe oedd fy ffrind ar y fainc gefn yn Nhŷ'r Arlgwyddi. Roedd ei egni anferthol a'i frwdfrydedd yn heintus i bawb oedd yn ei nabod".

Ychwanegodd: "Roedd Paddy yn help mawr i mi cyn y Cynulliad cyntaf yn 1999. Fe fyddai'i yn ei golli yn fawr ac rwy'n meddwl am [ei weddw] Jane a'i deulu."

Dywedodd Ms Dodds ei fod yn "gymeriad aruthrol yng ngwleidyddiaeth Prydain.

"Roedd Paddy yn wir gyfaill i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru ac fe fyddan ni'n colli ei asbri a'i ymroddiad i ryddfrydiaeth.

"Fe wnaeth Paddy gyfoethogi bywydau pawb oedd yn ei nabod."