Dinbych yn dathlu 60 mlynedd o rasio rolio casgenni
- Cyhoeddwyd
Daeth trigolion Dyffryn Clwyd allan yn eu miloedd ar Ŵyl San Steffan i'r traddodiad blynyddol o rolio casgenni.
Roedd eleni yn nodi 60 mlynedd ers dechrau Pencampwriaeth Rolio Casgenni Cymru yn Ninbych.
Mae'n rhaid i'r cystadleuwyr rolio casgen o gwrw o gwmpas cwrs ar y stryd fawr.
Roedd tua 2,000 wedi gwylio'r cystadlu eleni - traddodiad sy'n ymestyn yn ôl i 1958.
Mae'r cystadlu yn agored i bawb ac mae yna rasys ar gyfer pob oedran.