Cartref newydd i gerflun o arth ger Llanwrtyd

  • Cyhoeddwyd
Cerflun o'r arth
Disgrifiad o’r llun,

Yr arth bren yn ymyl yr A483 yn Llanwrtyd

Mae cerflun pren o arth 10 troedfedd wedi cael ei ailgartrefu ar ôl rhoi braw i yrrwr oedd yn pasio.

Roedd yr arth wedi ei leoli tu allan i faes parcio Melin Wlân Cambria yn Llanwrtyd, wrth ochr yr A483, a hynny ers 15 mlynedd.

Cafodd y penderfyniad i ail-gartrefu'r arth ar ôl i yrrwr gael gwrthdrawiad am fod ganddi ofn bod yr arth am ymosod arni.

Mae'r cerflun bellach wedi ei leoli ger caeau chwarae plant y pentref.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ym mis Mehefin 2018 ar ôl i ddynes oedd ar ei gwyliau o Ganada gredu bod yr arth yn un go iawn.

'Rhoi braw'

Wedi'r digwyddiad fe wnaeth swyddogion diogelwch mynnu fod yr arth yn cael ei symud i safle gwahanol i ffwrdd o ochr y ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arth wedi bod yn gorwedd ar ei ochr ers mis Mehefin.

Nôl ym mis Mehefin fe wnaeth rhai o drigolion Llanwrtyd frwydro'n erbyn y penderfyniad.

Dywedodd y Cynghorydd Peter James fod yr arth yn "fynedfa eiconig i'r dref ers dros 15 mlynedd".

"Dwi ddim yn deall pam fod rhaid i'r arth gael ei symud ar ôl bod yno ers blynyddoedd," meddai.