Mesur i weld a yw stryd fwyaf serth y byd yn Harlech

  • Cyhoeddwyd
Gwyn Headley yn mesur hyd rhan o'r ffordd wrth gasglu tystiolaeth
Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Headley yn mesur hyd rhan o'r ffordd wrth gasglu tystiolaeth

Gallai stryd yng Ngwynedd gael ei chydnabod fel y stryd breswyl fwyaf serth yn y byd cyn hir, wrth i fesuriadau swyddogol gael eu gwneud ddydd Mercher.

Baldwin Street yn Dunedin, Seland Newydd - sydd â graddiant o 35% ar ei fan mwyaf serth - yw deiliad y record ar hyn o bryd.

Ond mae trigolion Harlech yn credu bod Ffordd Pen Llech yn y dref â graddiant o 36%, fyddai'n ei gwneud yn fwy serth.

Mae swyddogion Recordiau Byd Guinness yn cymryd mesuriadau ar y stryd ddydd Mercher, ond does dim disgwyl cadarnhad yn y fan a'r lle.

Disgrifiad o’r llun,

Y tirfesurydd Myrddyn Phillips yn cofnodi ffigyrau yn Harlech ddydd Mercher

Dywedodd Sarah Badhan, sy'n rhedeg grŵp cymunedol ar Facebook, bod y mwyafrif o drigolion yn byw ar waelod y stryd, tra bod fferyllfa a swyddfa bost ar yr ochr uchaf.

"Mae'n bendant yn eich cadw'n heini," meddai.

"Mae'n dipyn o her mynd i fyny - rydych chi wedi ymlâdd erbyn i chi gyrraedd y top."

Disgrifiad o’r llun,

Baldwin Street yn Dunedin, Seland Newydd, yw deiliad y record ar hyn o bryd

Mae'r dystiolaeth yn cael ei chasglu gan y tirfesurydd Myrddyn Phillips.

Dywedodd mai'r broses yw "cymryd cyfres o fesuriadau ar y ffordd, yn canolbwyntio ar y rhan serthaf, er bod angen i ni fesur yr holl stryd.

"Bydd yn cymryd 'chydig o ddyddiau i brosesu'r wybodaeth gan fod angen cymryd y data am uchder y ffordd a chyfrifo union raddfa'r stryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae trigolion Harlech yn credu mai Ffordd Pen Llech yw stryd breswyl fwyaf serth y byd