Staff galwadau 999 'angen deall sepsis' yn well

  • Cyhoeddwyd
Dr Duncan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dr Heather Duncan ei tharo'n wael yn fuan ar ôl graddio gyda PhD

Mae angen i staff ambiwlans sy'n ateb galwadau 999 gael fwy o wybodaeth am sepsis, yn ôl meddygon a chleifion.

Mae gan staff sy'n ateb galwadau brys dros 30 o gardiau protocol er mwyn delio gyda gwahanol fathau o salwch, ond nid un ar gyfer sepsis.

Dywedodd un brifathrawes iddi dreulio dros bythefnos mewn coma ar ôl methiant i roi diagnosis o sepsis iddi.

Yn ôl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru mae sepsis yn rhannu symptomau gyda sawl salwch arall.

Mae sepsis yn digwydd pan mae system imiwnedd rhywun yn cael ei lethu gan haint, sy'n arwain at fethiant organau a niwed i feinweoedd y corff.

Mae'n gyfrifol am tua 2,500 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Duncan ei bod yn teimlo'n lwcus i fod yn fyw

Cafodd Dr Heather Duncan ei tharo'n wael yn 2013, ac er iddi ddioddef o chwysu, blinder a theimlad o "bellter" oddi wrth ei hun, nid oedd wedi clywed am sepsis nac yn ymwybodol o'i ddifrifoldeb.

"24 awr yn ddiweddarach ro'n i'n brwydro am fy mywyd yn yr adran gofal dwys," meddai.

Gyda'i symptomau o gyfogi a dolur rhydd, cafodd ddiagnosis o gastroenteritis i ddechrau.

Ond yn fuan iawn aeth yn anymwybodol, a bu mewn coma am dros bythefnos gyda sioc septig.

Ffynhonnell y llun, Heather Duncan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid torri bodiau traed Dr Duncan oherwydd effaith y sepsis ar ei chorff

Ffynhonnell y llun, Heather Duncan
Disgrifiad o’r llun,

Mae sioc septig yn gwneud i'r corff yrru gwaed at y prif organau i achub bywyd y person, sy'n amddifadu rhannau eraill

Dywedodd ei fod yn "wyrth" iddi oroesi, ond oherwydd y sioc septig, fe wnaeth ei chorff symud ei gwaed i'r prif organau er mwyn ceisio ei chadw'n fyw.

Mae hynny wedi arwain at farwolaeth celloedd ym modiau ei thraed, wnaeth olygu bod rhaid eu torri i ffwrdd.

Dim ond drwy lwc bod meddyg ar alw wedi adnabod y symptomau y cafodd y sepsis ei ddal, rhywbeth sy'n "frawychus" i Dr Duncan.

"Mae'n rhoi braw oherwydd petai unrhyw feddyg arall wedi bod yna, byddwn i wedi marw, yn syml."

Ychwanegodd: "Felly mae'n gwbl hanfodol bod staff ambiwlans yn (ystyried sepsis) gan fod pob munud yn bwysig pan mae gyda chi sepsis."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dr Paul Morgan wedi cwestiynu pam nad oes protocol sepsis gan y gwasanaeth ambiwlans

Mae'r sefyllfa yn "annerbyniol" yn ôl Dr Paul Morgan, arweinydd ar sepsis i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

"Rydyn ni wedi bod yn pwyso ar y gwasanaeth ambiwlans i greu ymateb penodol ar gyfer achosion o sepsis," meddai.

"Mae gan Coleg Brenhinol y Parafeddygon brotocol ar sepsis, felly dydw i ddim yn siwr pam nad yw hynny wedi ei fabwysiadu gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru."

'Sawl ffurf gwahanol'

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod cymhlethdod sepsis yn ei wneud yn anodd iawn ei adnabod dros y ffon.

Mae Dr Jonathan Whelan o'r gwasanaeth yn dweud bod staff galwadau brys yn defnyddio 32 o gardiau sy'n rhestru symptomau fel trafferth anadlu neu boen yn y frest er mwyn blaenoriaethu.

Dywedodd: "Nid oes gan sepsis gerdyn unigol, oherwydd mae'r symptomau sydd ynghlwm yn aml yn gysylltiedig â chyflyrau eraill.

"Mae sepsis hefyd yn gallu dod i'r amlwg mewn nifer o ffyrdd gwahanol."