Teyrngedau lu i'r AC Steffan Lewis
- Cyhoeddwyd
Parhau mae'r teyrngedau gan wleidyddion o bob plaid ac eraill i'r AC Steffan Lewis a fu farw ddydd Gwener - roedd wedi bod yn dioddef o ganser y coluddyn.
Mae baneri ar adeiladau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u gostwng fel arwydd o barch i Mr Lewis, AC Plaid Cymru Dwyrain De Cymru, oedd yn 34 oed.
Mae'n gadael gweddw, Shona, a mab Celyn, tair oed.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei gyd-wleidyddion fel un oedd â thalent aruthrol.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adan Price ei fod yn "wleidydd neilltuol o dalentog a gyflawnodd gymaint yn ystod ei gyfnod", gyda phrif weinidog Cymru, Mark Drakeford yn ei ddisgrifio fel "un o wleidyddion mwyaf galluog ei genhedlaeth".
Roedd yna deyrngedau hefyd gan ACau ac ASau, o'r meinciau blaen a'r meinciau cefn, y gwahanol bleidiau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn trydar dywedodd Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Steffan Lewis oedd gwleidydd athronyddol gorau ei genhedlaeth. Colled enfawr i'w deulu, y Blaid a Chymru. Adeiladwn genedl newydd i'w anrhydeddu. Cwsg mewn hedd fy nghymrawd annwyl"
Yn ei drydar ef, soniodd Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol, am "newyddion anhygoel o drist am golli Steffan Lewis. Dyn o egwyddor, a adawodd ei farc heb os, trwy ei allu a'i ymroddiad. Yn meddwl nawr am ei deulu a'i gyfeillion."
Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, fod Mr Lewis yn wleidydd o'r radd flaenaf ac yn ddyn hyfryd.
Mewn datganiad dywedodd Plaid Cymru: "Colli Steffan yw'r ergyd waethaf bosib i'n teulu ni ac rydym yn gwybod bod pobl ledled Cymru yn rhannu ein galar. Roedd Steff yn ein hysbrydoli ni bob dydd. Roedd e'n graig i ni, yn angor ac yn fwy na hynny yn arwr i ni. Yn anad dim, roedd yn ŵr, tad, mab a brawd cariadus.
"Hoffwn ddiolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd wnaeth ofalu am Steffan yn ystod ei salwch, yn enwedig staff Ysbyty Ystrad Fawr a'i Oncolegydd, Dr Hilary Williams o Ganolfan Canser Felindre."
Dywedodd Richard Pugh, pennaeth gwasanaethau Macmillan Cymru: "Fe wnaeth Steffan gyflawni gymaint yn ei fywyd byr a siarad mor ddewr a gyda theimlad am ei brofiad o ganser.
"Rydym yn meddwl am ei deulu a'i gyfeillion ar yr amser trist ac anodd hwn."
Mewn trydar dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fod "ei ddewrder trwy gydol ei salwch yn esiampl i ni oll.
"Mae fy meddyliau a gweddïau gyda'i deulu ar yr amser anodd hwn. "
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, roedd Steffan Lewis yn "aelod cynulliad ymroddgar a thalentog oedd yn cael ei barchu ar draws y sbectrwm gwleidyddol ac roedd ganddo ddyfodol disglair o'i flaen.
"Mae'n drasig ei fod wedi ein gadael mor ifanc."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad fod Mr Lewis wedi "ennyn parch ar draws ffiniau gwleidyddol, o fewn y Senedd a thu hwnt.
"Dangosodd Steffan ymroddiad a dewrder mawr wrth barhau i wasanaethu pobl Dwyrain De Cymru trwy gydol ei salwch anodd. "
Ychwanegodd y bydd llyfr cydymdeimlad ar gael yn y Senedd ar gyfer cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi teyrnged i Steffan Lewis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017