Apêl i gael Cymraes a'i babi sâl adref o Fietnam
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gymru a roddodd enedigaeth 13 wythnos yn fuan yn Fietnam yn apelio am arian i gludo hi a'i baban gartref.
Rhoddodd Jessica Jones, sy'n wreiddiol o Borth-y-gest ger Porthmadog, enedigaeth i'w merch yn Fietnam lle mae hi wedi bod yn byw gyda'i gŵr Alfredo ers dros flwyddyn a hanner.
Cafodd Aurelia Dueñas Jones ei geni wedi 27 wythnos o feichiogrwydd, ac fe wnaeth meddygon roi siawns o 5% iddi fyw.
Yn dilyn trafferthion dwys gyda datblygu organau a'r galon, mae rhieni Aurelia bellach eisiau teithio yn ôl i Gymru er mwyn derbyn triniaeth arbenigol i'w llygaid a'i hwyneb.
Dywedodd Ms Jones wrth BBC Cymru Fyw fod y sefyllfa'n "eithriadol o anodd" a bod y teulu "jyst eisiau dod adref rŵan".
'Dim cefnogaeth'
Yn ôl y teulu, fe wnaeth prinder adnoddau a gofal gwael achosi i septwm trwyn Aurelia ddiflannu ac mae ganddi bellach anffurfiadau ar ei hwyneb.
Ar ôl treulio 75 diwrnod mewn uned ddwys babanod yn Hanoi, mae Aurelia bellach adref gyda'i rhieni.
Gobaith y teulu yw dychwelyd i Gymru ym mis Chwefror i dderbyn llawdriniaeth arbenigol gan feddygon i wella Aurelia.
Dywedodd Jessica Jones bod ei ffrindiau a'i theulu wedi bod yn gwneud trefniadau gofal ar gyfer Aurelia pan fyddan nhw'n ôl.
"Mae o 'di bod yn sefyllfa eithriadol o anodd bod yn Hanoi gydag Aurelia sydd mor sâl," meddai.
"Dydi'r nyrsys ddim yn siarad Saesneg felly mae rhaid i ni ddefnyddio Google Translate ond dydi hwnnw ddim wastad yn gweithio.
"Mae'r cwmni yswiriant wedi dweud os ydi Aurelia dal yn yr ysbyty heibio 8 Ionawr maen nhw'n bwriadu stopio rhoi arian i ni. Mae'n eithriadol o gostus.
"Mae Aurelia bellach adref a 'dan ni'n edrych ar ôl hi. Mae ganddyn nhw agwedd mor wahanol at feddygaeth [yn Fietnam]. Does dim cefnogaeth a 'dan ni'm yn cael cwestiynu'r nyrsys."
'Risg o heintiau'
Er mwyn dychwelyd i Gymru mae'r teulu wedi lansio tudalen gasglu arian i gyfrannu at gostau cludo Aurelia.
Mae'r dudalen bellach wedi cyrraedd bron i 60% o'u targed o £15,000, ac fe roddwyd "£8,000 mewn 24 awr".
"Mae o 'di bod yn afiach bod mor bell o'n teulu a'n ffrindiau. 'Dan ni jyst eisiau dod adref rŵan gymaint," ychwanegodd Jessica Jones.
"'Dan ni'n hyderus y byddwn ni'n cael dod adref fis nesaf. Mae hi'n gallu teithio ond 'dan ni'n cymryd risg wrth feddwl am heintiau ac afiechydon.
"'Dan ni wedi bod yn siarad gyda meddygon ym Mhrydain i deithio yn business class felly fydd 'na lai o bobl.
"Pan 'dan ni'n ôl 'dan ni am fynd yn syth i'r feddygfa ym Mhorthmadog ac wedyn wnawn ni ei chofrestru hi.
"Mae'r meddygon ym Mhrydain wedi gweld lluniau ohoni yn barod felly maen nhw'n gwybod beth i ddisgwyl."
Gallwch glywed mwy am hanes Aurelia ac ymdrechion ei rhieni i'w chludo nôl i Gymru am driniaeth ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ar 15 Ionawr.