Ymchwiliad yn parhau i ffrwydrad mewn bloc o fflatiau
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn ymchwilio i achos ffrwydrad nwy wnaeth achosi difrod sylweddol i floc o fflatiau yng Nghastell-nedd.
Mae dynes oedrannus yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys, Abertawe ar ôl cael llosgiadau yn y digwyddiad yn fflatiau Waun Las, yn ardal Waunceirch.
Cafodd tri o bobl oedrannus eraill loches dros nos ar ôl cael gorchymyn i adael eu fflatiau wedi'r ffrwydrad a ddigwyddodd tua 20:30 nos Lun.
Mae'r awdurdodau yn trefnu llefydd i'r trigolion aros nes bydd yr adeilad yn ddigon saff iddyn nhw allu dychwelyd i'w cartrefi.
Dywedodd Melissa Jeffreys, sy'n byw ger y fflatiau, fod y ddynes sydd yn yr ysbyty "mewn cyflwr ofnadwy - roedd hi wedi colli'r rhan fwyaf o'i gwallt.
"Clywais i ffrwydrad anferth felly edrychais i allan o'r ffenest ac roedd yna fflamau mawr yn dod o'r to. Wnes i alw 999 a rhedeg draw.
"Mae'r to wedi cael ei chwalu'n gyfan gwbl. Mae pawb oedd y tu mewn yn lwcus iawn i fod yn fyw."
Dywed Heddlu'r De nad yw'r anafiadau'r ddynes yn rhai all beryglu bywyd.
Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Heddlu'r De a Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymu.
Cafodd peirianwyr Wales & West Utilities eu danfon i'r safle nos Lun i ddiffodd y ffynhonell nwy.
Dywedodd llefarydd eu bod "yn helpu'r gwasanaethau brys i ddod o hyd i achos y ffrwydrad".