Cynnal adolygiad barnwrol i ymchwiliad marwolaeth Sargeant
- Cyhoeddwyd
Bydd adolygiad barnwrol yn cael ei gynnal ddydd Iau i'r modd y mae ymchwiliad i ddiswyddiad Carl Sargeant yn cael ei gynnal.
Cafodd cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy ei ganfod yn farw bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.
Mae gweddw Mr Sargeant, Bernie, wedi galw ar gyfreithwyr y teulu i gael cwestiynu tystion.
Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi gwneud sylw.
Her y teulu
Bu farw Mr Sargeant ym mis Tachwedd 2017, ddyddiau wedi i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ei ddiswyddo fel Ysgrifennydd Cymunedau.
Yn dilyn marwolaeth Mr Sargeant, a phwysau gan ei deulu a gwleidyddion Llafur, fe wnaeth Mr Jones alw ymchwiliad i'r modd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo.
Cafodd Paul Bowen QC ei benodi i arwain yr ymchwiliad annibynnol, ond mae penderfyniad y teulu i herio ffurf yr ymchwiliad hwnnw drwy adolygiad barnwrol yn golygu nad yw'r gwaith wedi dechrau eto.
Dywedodd cyfreithwyr Hudgell, sy'n cynrychioli teulu Sargeant, eu bod yn herio'r penderfyniad i atal cyfreithwyr y teulu rhag cwestiynu tystion, a chaniatáu i'r ymchwilydd wahardd y teulu o wrandawiadau.
Mae Bernie Sargeant hefyd yn herio penderfyniadau i beidio clywed tystiolaeth eiriol yn gyhoeddus, ac i beidio gadael i Mr Bowen fynnu bod tystion yn ymddangos.
Dywedodd Mrs Sargeant y gallai cais gan Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, Shan Morgan y dylai gweision sifil roi gwybod iddi hi neu gydweithwyr yn hytrach na Mr Bowen os oes ganddyn nhw dystiolaeth i'r ymchwiliad, hefyd rwystro'r ymchwiliad.
"Mae cael atebion i deulu Sargeant yn dechrau troi'n broses hirwyntog ac anodd tu hwnt, ond rydyn ni'n gobeithio y bydd y gwrandawiad yr wythnos hon yn golygu bod y teulu gam yn agosach at ymchwiliad ystyrlon," meddai Neil Hudgell o gwmni cyfreithwyr Hudgell.
Nid dyma'r unig achos llys sydd i'w ddisgwyl yn dilyn marwolaeth Mr Sargeant.
Mae cwnsel Carwyn Jones, Cathy McGahey, wedi gofyn am adolygiad barnwrol i'r cwest yn dilyn penderfyniad y crwner i beidio â chynnwys tystiolaeth gan arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton a'i ddirprwy Bernie Attridge.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018