Rhybudd am eira ar dir uchel

  • Cyhoeddwyd
rhybuddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira dros rannau uchel o Gymru fore Gwener.

Mae'r rhybudd mewn grym o 08:00 tan 13:00 ddydd Gwener.

Bydd band o eirlaw, cenllysg ac eira yn symud tua'r dwyrain ar draws y wlad yn ystod y bore.

Er bod ansicrwydd am yr amseriad, mae'r rhybudd yn dweud y bydd yna gyfnod o ychydig oriau lle gallai rhwng 2-4cm o eira ddisgyn ar dir uchel, yn bennaf uwchlaw 250m.

Gallai hyn arwain at oedi ar deithiau bws a thrafferth i yrwyr ceir ar ffyrdd yn yr ardaloedd dan sylw.

Bydd y rhybudd mewn grym dros rannau o'r siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent;

  • Caerffili;

  • Sir Gaerfyrddin;

  • Ceredigion;

  • Conwy;

  • Gwynedd;

  • Merthyr Tudful;

  • Sir Fynwy;

  • Powys;

  • Rhondda Cynon Taf;

  • Torfaen.