Strategaeth i 'ailddiffinio' perthynas Cymru ag Ewrop
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi cyhoeddi Strategaeth Ryngwladol newydd fydd yn "ailddiffinio perthynas ddiwylliannol Chymru â gweddill Ewrop".
Yn ogystal, bydd y strategaeth yn "creu cysylltiadau ledled y byd a dathlu celf ac artistiaid Cymru ar lwyfannau rhyngwladol".
Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru - asiantaeth oddi mewn i Gyngor y Celfyddydau - mae cynlluniau ar gyfer gweithio gydag Ewrop, Tsieina ac India o fewn y Strategaeth.
Ond mae Canada'n cael ei chydnabod yn arbennig fel ardal flaenoriaeth, yn ôl y Cyngor.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George: "Wrth i berthynas Cymru â'r byd newid ar ras, 'dyw ymrwymiad Cyngor y Celfyddydau i weithio'n rhyngwladol erioed wedi bod mor bwysig."
"Gyda'r holl heriau sy'n wynebu gwahanol rannau o'r byd, mae hwylio ar foroedd tymhestlog wedi dod yn beth arferol.
"Ar adegau fel hyn mae pwysigrwydd y celfyddydau yn amlwg, yn taflu golau ar ein byd.
"Dyma pam mae gweithio'n rhyngwladol mor hanfodol wrth ddatblygu gwlad groesawgar, egnïol sydd â'r celfyddydau wrth galon popeth," meddai.
Mae'r Cyngor hefyd yn pwysleisio'r pwysigrwydd o gyd weithio'n agos gyda'r British Council a gwahanol adrannau o lywodraeth y DU sy'n gyfrifol am ddiwylliant.
Daw hyn "er mwyn ehangu cyfleoedd artistiaid Cymru sy'n chwilio am gyfleoedd a marchnadoedd newydd," meddai Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau, Nick Capaldi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2018