Sicrhau lle canolog i'r celfyddydau ym mywyd y genedl
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am "sicrhau bod y celfyddydau'n ganolog i fywyd a llesiant y genedl", wrth iddynt lansio eu cynllun corfforaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Dwy flaenoriaeth sydd gan y cynllun sef hyrwyddo cydraddoldeb er mwyn ehangu i bob cymuned yng Nghymru, a chryfhau gallu a gwydnwch y sector i helpu doniau creadigol ffynnu.
Yn ôl y Cyngor, bydd ymrwymo i'r rhain yn galluogi iddynt "weithio'n fwy effeithiol, a chydweithio'n fwy dychmyglon â phartneriaid o'r un meddylfryd ledled Cymru".
Dywedodd Phil George, Cadeirydd y Cyngor, fod y corff yn "ymrwymedig i ragoriaeth a chefnogi celfyddyd bryfoclyd, arloesol a dewr".
'Haws dweud na gwneud'
Ychwanegodd Mr George y bydd cyflawni hyn yn haws "dweud na gwneud", gan fod "gormod o bobl yn cael eu hamddifadu o'r cyfle i fwynhau'r celfyddydau neu gymryd rhan neu weithio ynddynt,"
"Credwn fod cael profiadau celfyddydol a mynegi'r dychymyg er mwyn gwella bywyd yn hanfodol i gymdeithas iach a deinamig ac felly dylent fod ar gael i bawb."
Camau i sicrhau lle canolog i'r celfyddydau:
Darparu arian a chefnogaeth i annog gwydnwch ymhlith artistiaid a sefydliadau celfyddydol
Cynyddu'r buddsoddiad yng ngwaith creadigol artistiaid duon, Asiaidd ac ethnig, pobl anabl a'r rheini sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg
Ymgyrchu dros gael rhagor o amrywiaeth yng ngweithlu'r celfyddydau
Ymestyn eu gwaith gyda phlant a phobl ifainc
Cael y gorau o'r cyfleoedd o weithio'n rhyngwladol
'Chwalu'r myth'
Yn ôl Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, mae'r cyngor wedi "gweithio'n galed i chwalu'r myth mai dim ond lleiafrif bach sy'n cael gwerth a manteision o'r celfyddydau".
"Ond dengys y dystiolaeth, er gwaethaf rhywfaint o lwyddiant, na wnawn ddigon o hyd i gyrraedd y nod," meddai.
Ychwanegodd: "Bydd dymchwel y rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yn un o'n prif flaenoriaethau dros gyfnod y cynllun, yn ogystal â pharhau i hyrwyddo rhagoriaeth ac annog cynhyrchu'r gorau yn ein celfyddydau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd25 Mai 2018