'Fydd cleifion Betsi ddim yn disgwyl mwy na dwy flynedd am driniaeth'

Mae Dyfed Edwards yn dweud ei fod yn "eithaf ffyddiog" na fydd unrhyw un ar y rhestr aros hirdymor erbyn diwedd 2025
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn dweud na fydd unrhyw gleifion yn aros am fwy na dwy flynedd am driniaeth y GIG erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ei fod yn "eithaf ffyddiog" na fydd unrhyw un ar y rhestr aros hirdymor erbyn diwedd 2025.
Mae'r bwrdd iechyd wedi bod o dan y lefel uchaf o arolygiaeth gan y llywodraeth ers Chwefror 2023.
Cafodd ei roi mewn mesurau arbennig gyntaf ym mis Mehefin 2015, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw eto am ymchwiliad cyhoeddus i'r bwrdd iechyd.
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod amseroedd aros o fwy na dwy flynedd wedi gostwng i ychydig o dan 8,400 erbyn diwedd mis Mawrth 2025 – y lefel isaf ers mis Ebrill 2021.
Ond fe fethon nhw â chyrraedd y nod o 8,000 ac maen nhw'n uwch na rhai GIG Lloegr.
Roedd y mwyafrif o'r rhai a oedd yn aros am driniaeth ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Dywedodd Dyfed Edwards wrth Newyddion S4C: "'Dan ni'n wynebu sefyllfa capasiti - dyna be' 'di'r cwestiwn canolog.
"Erbyn diwedd y flwyddyn calendr yma dwi'n eithaf ffyddiog na fydd neb yn aros bellach na dwy flynedd am driniaeth yn y bwrdd iechyd yma."
Fis Rhagfyr diwethaf, addawodd y Prif Weinidog Eluned Morgan dorri'r niferoedd sy'n aros dwy flynedd neu fwy am driniaethau wedi'u cynllunio o 24,000 i "tua 8,000" erbyn gwanwyn eleni.
Yr union nifer oedd 8,389 ac o ganlyniad mae'r gwrthbleidiau yn mynnu bod y targed wedi ei fethu.

Mae Betsi Cadwaladr yn un o ddau fwrdd iechyd sydd wedi methu cyrraedd eu targed
Wrth siarad yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles nad oedd gan fyrddau iechyd Bae Abertawe, Hywel Dda, a Phowys unrhyw gleifion yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
Ond dywedodd fod dau fwrdd iechyd sef Caerdydd a'r Fro a Betsi Cadwaladr, wedi methu cwrdd â'u targedau.
Dywedodd Mr Miles wrth Aelodau o'r Senedd: "Mae'r broblem fwyaf difrifol yng ngogledd Cymru, lle o'r wythnos hon ymlaen, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda staff y bwrdd iechyd er mwyn gwella sefyllfa triniaethau sydd wedi'u cynllunio."
Ychwanegodd: "Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd i leihau arosiadau hir yn sylweddol erbyn diwedd chwarter cyntaf y flwyddyn [ariannol] hon."
'Ar y trywydd iawn'
Gofynnodd Newyddion S4C i Dyfed Edwards, Cadeirydd Betsi Cadwaladr, pryd yr oedd yn disgwyl i hynny gael ei ostwng: "Mae'n ffocws ni ar wella'r bwrdd iechyd ei hun, a'r darpariaeth iechyd sy' 'na ar gyfer gogledd Cymru.
"Mae o wedi gwella, a 'dan ni ar y siwrne yna. Rhyw is-gynnyrch o lwyddiant y bwrdd iechyd fydd dod allan o fesurau arbennig - y ffordd yna dwi'n meddwl mae'r ceffyl a'r drol yn gweithio."
Wrth gyfeirio at sylwadau Mr Miles am gydweithio gyda'r llywodraeth dywedodd y cadeirydd: "Mae swyddogion yna wedi dod mewn yr wythnos diwethaf i edrych ar pa gamau 'dan ni'n cymeryd - ac i ddeall rhai o'r anawsterau 'dan ni'n wynebu a weithiau dal ein llaw ni wrth i ni wneud y gwaith.
"Dwi'n meddwl bo' ni wedi dangos i swyddogion y llywodraeth ein bod ni ar y trywydd iawn ac weithiau mae'r llywodraeth angen y sicrwydd yna a does dim byd gwell na dod mewn a gweld drosoch chi'ch hunain i gael y dystiolaeth yna a dyna maen nhw wedi'i wneud yr wythnos diwethaf 'ma."