Cyn-weithwyr ffatri ieir yn dwyn achos yn erbyn y cwmni am ledaeniad Covid

Ym mis Mehefin 2020, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod dros 200 o achosion o Covid-19 wedi'u cysylltu â ffatri 2 Sisters yn Llangefni
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weithwyr ffatri ieir ym Môn, sy'n honni eu bod wedi dal Covid yno, wedi cael caniatâd i barhau â chamau cyfreithiol yn erbyn y cwmni.
Ym mis Mehefin 2020, ar anterth y pandemig, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod dros 200 o achosion o Covid-19 wedi'u cysylltu â ffatri 2 Sisters yn Llangefni.
Roedd Mark Edwards, Glynne Roberts, Nia Williams a Brian Perry yn gweithio ar y llinell gynhyrchu cyw iâr.
Maen nhw'n honni eu bod wedi gweithio "ochr yn ochr" a'u bod nhw i gyd wedi mynd yn sâl gyda'r feirws y mis hwnnw.
Maen nhw'n siwio 2 Sisters Food Group, gan honni eu bod nhw wedi dal Covid-19 o ganlyniad i dorri dyletswydd, torri contract ac esgeulustod.
Fel rhan o'u hawliad, maen nhw'n dweud nad oedd rheoliadau Offer Diogelu Personol (PPE) yn y gwaith wedi'u dilyn yn iawn.
Cafodd eu hachos ei wrthod y llynedd ond maen nhw bellach wedi ennill apêl yn yr Uchel Lys, gan ganiatáu i'r achos barhau.
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2023
Caeodd ffatri 2 Sisters yn barhaol ym mis Mawrth 2023, gyda cholled o dros 700 o swyddi ar ôl i'r cwmni ddweud bod y safle'n hen ac angen gormod o fuddsoddiad i'w ddod i fyny i'r safon.
Yn ystod y pandemig yn 2020, roedd safle 2 Sisters yn Llangefni yn un o sawl ffatri prosesu bwyd yng Nghymru a brofodd achosion o Covid-19.
Ar y pryd, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod swyddogion yn edrych ar lefel y risg yn y diwydiant bwyd.
Mae 2 Sisters yn derbyn bod y staff wedi gweithio'n agos at ei gilydd ym mis Mehefin 2020, ond yn gwadu eu bod nhw "ochr yn ochr â'i gilydd".
Dywed y cwmni eu bod wedi gweithredu mesurau hylendid gwell yn y ffatri a gaeodd dros dro ar 18 Mehefin 2020.

Caeodd ffatri 2 Sisters yn barhaol ym mis Mawrth 2023, gyda cholled o dros 700 o swyddi
Ar ddechrau eu camau cyfreithiol, nid oedd y cyn-weithwyr wedi cael tystiolaeth feddygol arbenigol i gefnogi eu honiad.
Dywedodd eu cyfreithwyr y byddai arbenigwyr iechyd a firolegwyr yn cael eu gofyn i roi eu barn cyn i'r achos fynd i'r llys.
Ychwanegodd y dylai'r cwmni ddatgelu tystiolaeth am yr achosion cyn y gallan nhw ofyn am farn arbenigol i gefnogi'r honiad.
Roedd cyfreithwyr 2 Sisters yn dadlau na allai'r hawlyddion brofi pryd na sut y gwnaethon nhw ddal y feirws ac os oedd unrhyw gysylltiad â'r ffatri.

Ym mis Ionawr y llynedd, gofynnodd 2 Sisters am i'r achos gael ei wrthod yn Llys Sirol Caernarfon ar y sail na allai Mr Edwards a'r lleill brofi achos eu salwch a bod eu hawliad yn sicr o fethu.
Ym mis Gorffennaf, dyfarnodd y Barnwr Wendy Owen nad oedd unrhyw obaith gwirioneddol y byddai'r hawliad yn llwyddo heb dystiolaeth feddygol a dim rheswm cymhellol arall pam y dylai'r achos fynd i'r llys.
Dywedodd y barnwr fod achosiaeth a barn feddygol yn elfennau hanfodol y dylid bod wedi'i hymchwilio iddo eisoes cyn cychwyn achos cyfreithiol.
Ond cafodd caniatâd i apelio yn erbyn yr achos ei roi ym mis Rhagfyr a chafodd gwrandawiad o flaen barnwr yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd ei gynnal ym mis Ebrill.
'Tasg anodd'
Mewn dyfarniad ddiwedd Mai, dywedodd barnwr yr Uchel Lys, Syr Peter Lane, fod y broses "braidd yn llym ei natur" a dylai llysoedd osgoi cynnal "treial mini" o achos.
Dywedodd Syr Peter fod y Barnwr Owen wedi "gwneud camgymeriad" wrth gynnal "treial mini" heb y dystiolaeth a fyddai wedi bod ar gael pe bai'r achos wedi cael mynd ymlaen i'r llys.
Dywedodd - mewn hawliad lle mae costau arbenigwr yn debygol o fod yn sylweddol o'u cymharu â gwerth tebygol yr hawliadau - ei bod yn "amlwg gymesur" i'r cyn-weithwyr fod wedi bwrw ymlaen â'r hawliad yn y modd hwn.
Wrth ganiatáu'r apêl, dywedodd y gallai'r hawlyddion wynebu "tasg anodd" ond na allai'r Barnwr Owen fod yn fodlon nad oedd gan yr hawlyddion unrhyw obaith gwirioneddol o lwyddo.
Nid yw dyddiad y gwrandawiad nesaf wedi'i benderfynu eto.