Sefydlu ysgoloriaeth i gerddorion ifanc er cof am Annette Bryn Parri

Mae nifer fawr o deyrngedau wedi cael eu rhoi i Annette Bryn Parri ers iddi farw ddiwedd Mai
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgoloriaeth i gerddorion ifanc yn cael ei sefydlu er cof am y gyfeilyddes a'r hyfforddwraig amryddawn, Annette Bryn Parri.
Mae nifer fawr o deyrngedau wedi eu rhoi ers ei marwolaeth ddiwedd mis Mai yn 62 oed, gyda sawl un yn cofio am ei hymroddiad i gerddorion ifanc dros y blynyddoedd.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd ei merch, Heledd Bryn Parri: "Roedd colli Mam yr wythnos diwethaf yn andros o sioc i fi a fy mrodyr gan iddi farw wedi gwaeledd byr iawn."
Mae'r teulu wedi penderfynu y dylai'r arian a fydd yn cael ei gasglu er cof amdani fynd at sefydlu ysgoloriaeth.
"Roedd Mam wedi gwneud gymaint efo amrywiol elusennau a rywsut o'dd o'n anodd penderfynu lle ddylai'r arian fynd - ro'dd hi'n anodd iawn dewis un neu ddwy elusen a dyma aelodau agos o'r teulu yn awgrymu sefydlu ysgoloriaeth," meddai.
"Yn amlwg cerddoriaeth oedd byd Mam ac ro'dd ein cartref yn llawn o bobl drwy'r amser - pobl yn dod i gael gwersi ac roeddwn i a fy nau frawd, Ynyr a Bedwyr, wrth ein boddau yn cael ein magu ar yr aelwyd.
"Felly dwi'n meddwl bod hi'n braf cefnogi cerddorion y dyfodol - a gneud hynny yn enw Mam.
"Dyna'r ffordd orau 'dan ni'n teimlo i gofio amdani."

Bedwyr, Heledd, Ynyr a'u diweddar rieni - Gwyn ac Annette Bryn Parri
Ychwanegodd Heledd bod marwolaeth ei mam yn ergyd fawr iddi hi a'i brodyr.
"Mae'n ergyd arall i ni ar ôl colli Dad - dim ond rhyw dair blynedd a hanner sydd ers hynny," meddai.
"Ry'n ni wedi cael cymaint o negeseuon o gydymdeimlad ac yn eu gwerthfawrogi.
"Mae gynnon ni atgofion lyfli - roedd yna rhywun yn y tŷ drwy'r amser a 'dan ni fel plant hefyd yn cofio mynd ar wyliau gyda chantorion.
"Fuon ni ddwywaith yn Awstralia - unwaith gyda Hogia'r Wyddfa ac unwaith efo Timothy Evans a chael amser bendigedig.
"Fyddwn ni'n trysori'r atgofion am byth - ac maen nhw'n gysur i ni ar adeg mor drist."
Bydd angladd Annette Bryn Parri yn cael ei gynnal yn Eglwys Crist Llandinorwig, Deiniolen brynhawn Iau, 19 Mehefin ac fe fydd hi yna yn cael ei chladdu gyda'i diweddar ŵr ym Mynwent Macpelah gerllaw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mai