Capeli Sardis, Sitim a Smyrna: O ble daeth yr enwau?

  • Cyhoeddwyd
Capeli

Salem, Seilo, Moreia - dyma enwau digon cyffredin ar hen gapeli yng Nghymru ond beth tybed sydd tu ôl i'r enwau anarferol fel Smyrna, Sardis, Als ac Armenia?

Am resymau amlwg, enwau o'r Beibl sydd gan y rhan fwyaf o gapeli ond mae sawl capel ag enw sydd yn dod o le digon annisgwyl.

Ainon

O ran yr enwau Beiblaidd mae Capel Ainon i'w gael yn Ystradgynlais, Harlech, Tonyrefail, Llanuwchllyn, a Llantrisant ger Bodedern - capeli Bedyddwyr i gyd.

Ffynhonnell y llun, Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Capel Ainon ar lan yr afon yn Ystradgynlais

Mae hynny'n gwneud synnwyr gan mai ystyr yr enw Ainon yw 'ffynhonnau' neu 'ffrydiau' ac mewn lle o'r enw Ainon, yn ôl y Beibl, roedd Ioan Fedyddiwr yn pregethu ac yn bedyddio.

Yn Llyfr y Datguddiad yn y Beibl mae Ioan yn cyfeirio at eglwysi pwysicaf y cyfnod sef 'Saith Eglwys Asia:' Effesus, Smyrna, Pergamus, Thyatira, Sardis, Philadelffia, a Laodicea.

Smyrna a Sardis

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Capel Smyrna yn Llangain

Dinas lewyrchus ac enwog am ei chyfoeth oedd Sardis ac roedd Smyrna yn ddinas hardd iawn a oedd yn adnabyddus fel lle cynhyrchu myrr.

Yr enw yn iaith Groeg am myrr yw 'Σμύρνα' ('smyrna'). Mae saith Capel Smyrna i gyd yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Eric Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Capel Sardis, Dinorwig, 320 metr uwch lefel y môr

Ymysg y Capeli Sardis yng Nghymru mae un sydd ar gyrion Llanaelhaearn, un yn Llangynidr ac un yn Llanwenllwyfo. Capel Sardis Dinorwig yw capel uchaf Cymru (320m o lefel y môr).

Bethffage

Yn Llaingoch, Caergybi, Môn mae Capel Bethffage sydd bellach wedi cau.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Capel Bethffage ym Môn

Mae'r enw wedi dod o dref o'r enw Bethphage lle anfonodd Iesu Grist ei ddisgyblion i chwilio am ebol asyn ar gyfer ei daith olaf i Jeriwslaem, taith sy'n cael ei gofio ar Sul y Blodau.

Daw'r enw Bethffage o 'beth' (sy'n golygu 'tŷ') a 'ffage' (sy'n golygu'r ffrwyth 'ffigys').

Barachia

Enw personol o'r Hen Destament sydd wedi rhoi ei enw i Gapel Barachia yn Hen Bentref Llandegfan, Môn. Yr enw gwreiddiol oedd 'Beracheia' oedd yn dad i Sechareia.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Capel Barachia yn Llandegfan

Sitim

Ymlaen â ni i Gapel Sitim yn Felingwmisaf, Sir Gaerfyrddin. Enw lle o'r Beibl yw Sittim a gafodd ei enwi ar ôl coeden arbennig a dyfai yno, coeden hynafol o deulu'r 'Acacia'.

Ffynhonnell y llun, Florian Prischl

Yn Nyffryn yr Iorddonen ac anialwch Sinai roedd pren 'sitta' ('šiṭṭâ' - lluosog 'sittim') yn cael ei ddefnyddio i adeiladu llongau gan ei fod yn bren caled a gwydn ac yn para'n hir mewn dŵr heb bydru.

Als

Tarddiad gwahanol iawn sydd i enw Capel Als, Llanelli, sy'n cael ei ystyried yn un o adeiladau crefyddol pwysicaf Cymru o safbwynt pensaernïaeth a hanes anghydffurfiaeth yn dref.

Ffynhonnell y llun, Gary Davies
Disgrifiad o’r llun,

Capel Als, Llanelli

Agorwyd y capel yn 1780 ar safle hen ffynnon o'r enw Ffynnon Alis, a dyna'n syml sut y cafodd y capel ei enw, aeth Alis yn Als.

Ychwanegwyd at yr adeilad yn 1797, 1827 ac ailadeiladwyd y capel, yn llawer mwy gan bod cynifer o addolwyr, yn 1852 a 1894. Erbyn 1905 roedd lle i 1,150 o addolwyr yn y capel ac roedd oddeutu 450 yn mynychu'r ysgol Sul. Ond hyd yn oed wedyn nid Capel Als oedd capel Cymraeg mwyaf Llanelli - roedd Capel Triniti yn fwy!

Llysenw hoffus

Yn achos sawl capel mae'r adeilad wedi mynd ond yr enw'n parhau ar strydoedd cyfagos.

Yng Nghaergybi yn 1861 adeiladwyd Capel Armenia gyda £1,100 a godwyd gan 200 o aelodau. Yn dilyn dyfodiaid y rheilffordd ac adeiladu'r morglawdd, daeth Caergybi'n lle poblog iawn a daeth arferion 'drwg' ac 'anfoesol' i'r dref felly codwyd y capel i warchod pobl rhag y drygioni mawr.

Roedd un o'r blaenoriaid wedi clywed bod y wlad o'r enw Armenia, sydd rhwng Azerbaijan a Thwrci yn wlad ffrwythlon iawn oedd yn cael dau gynhaeaf bob blwyddyn. Yn y gobaith y byddai'r capel newydd yr un mor ffrywthlon penderfynwyd ei enwi'n Capel Armenia.

Roedd llawer o gynulleidfa'r capel yn forwyr a phobl fasnach gyfoethog ac o fewn ychydig flynyddoedd cafodd y capel y llysenw hoffus 'Y Capel Sidan' gan fod sŵn sgertiau drud y merched yn sisial wrth iddyn nhw gerdded drwy'r capel i'w seddau.

Yn 1997 symudodd y gynulleidfa i Gapel Hyfrydle'n y dref ac yn ddiweddarach cafodd y capel ei ddymchwel ond mae'r enw wedi ei gadw mewn stryd gyfagos, Stryd Capel Armenia.

Ar wahân i'r arferol Soar a Seion, Bethel, Beulah wyddoch chi am gapel ag enw arall unigryw?

Bethabara

Cysylltodd Alwyn Evans, o Gaerdydd, â Cymru Fyw i son am dri chapel yng Nghymru o'r enw Bethabara, sy'n meddwl 'tu hwnt i'r Iorddonen', sef y fan lle'r arferai Ioan fedyddio a phregethu.

Yn ôl Alwyn, mae Capel Bedyddwyr Bethabara yn Llangernyw yn dal i gynnal gwasanaethau, ond mae Bethabara'r Wyddgrug wedi ei droi yn gapel hedd i ymgymerwyr ers blynyddoedd.

Mae yna drydedd Bethabara hefyd - yng ngogledd Sir Benfro.

Paran, Elim a Gad

Yn ôl Llifon Jones, o Gaerwen, mae capel Presbyteriaid yn Rhosneigr o'r enw Paran. Roedd Paran yn anialwch a gerddodd yr Israeliaid drwyddo wrth ddianc o'r Aifft yn llyfr Ecsodus.

Roedd Capel Elim hefyd ger Llanddeusant ym Môn wedi'i enwi ar ôl lle wnaeth yr Israeliaid aros yn ystod eu taith.

Mae capel arall Presbyteriaid ym Modffordd o'r enw Gad, sef enw un o feibion Jacob, a oedd yn un o ddeuddeg llwyth Israel.

Mae eraill wedi ysgrifennu at Cymru Fyw i son am Gapel y Priordy, yng Nghaerfyrddin, Capel Ifan yn Llannerchymedd, Ynys Môn ac Utica ym Maentwrog, ger Trawsfynydd.