Galw am eglurder ynglŷn â dyfodol coeden ddur Borth
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion ger Aberystwyth yn dechrau amau a fydd coeden ddur, sy'n mesur 10m mewn uchder, yn cael ei chodi ar draeth Borth o gwbl.
Yn dilyn apêl fe gafodd yr artist lleol, Rob Davies, ganiatâd cynllunio ar gyfer y cerflun ym mis Mehefin 2018.
Bellach mae pobl sy'n gwrthwynebu'r prosiect yn galw am eglurder, ac yn cwestiynu os fydd y gwaith celf yn cael ei gwblhau yn y pen draw.
Mae'r gwaith ymchwil yn parhau, yn ôl Mr Davies.
Adrodd stori
Mae gweddillion coed hynafol i'w gweld ar adegau prin ar ddarn o dir rhwng Borth ac Ynys Las.
Bu'r coed farw oddeutu 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ac yn ôl rhai mae'r boncyffion yn sail i chwedl Cantre'r Gwaelod.
Dywedodd Mr Davies: "Roeddwn i'n cerdded ar hyd y traeth gyda'r cŵn tra bod y llanw allan ac roedd y goedwig o dan y llif i'w gweld yn glir. Dyma fi'n dechrau meddwl am y cynnydd yn lefelau'r môr."
"Fe gefais i'r syniad yma i osod cerflun dur o goeden sydd yng Ngheredigion ar y traeth, rhwng llanw uchel ac isel.
"Dwi'n meddwl y bydd yn adrodd stori ynglŷn ag effaith dyn ar y blaned, yn ogystal ag adrodd hanes a dweud rhywbeth am antholeg."
Yn ôl cyfyngiadau'r cais cynllunio, mae'n rhaid i Mr Davies ddechrau ar y gwaith cyn 2023, a thynnu'r goeden i lawr cyn 2028. Mae'n rhaid hefyd dod o hyd i'r arian fydd ei angen i dynnu'r cerflun i lawr.
Mae Mr Davies yn cydnabod bod y gwaith yn "mynd i gostio swm sylweddol o arian", a gobaith cefnogwyr y prosiect yw codi'r arian trwy ddulliau torfol, ceisiadau grant, ymddiriedolaethau ac ymdrechion lleol.
Ond, mae'r cynlluniau wedi bod yn rhai dadleuol - o blaid ac yn erbyn.
Ychwanegodd Mr Davies: "Mae hi wedi bod yn anodd iawn ar adegau. Ond dwi'n teimlo, mewn gwirionedd, nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n gryf naill ffordd neu'r llall."
"Yn anffodus, dydy'r mwyafrif o bobl ddim yn poeni am gelf, nac am gynhesu byd eang chwaith.
"Y prif reswm dwi wedi dyfalbarhau yw bod newid hinsawdd a chynnydd yn lefelau'r môr yn un o'r pethau pwysicaf sy'n digwydd ar hyn o bryd.
"Os ydw i'n gallu creu celf am hynny, mae'n teimlo'n beth hanfodol bwysig i'w wneud."
'Peryglus'
Yn ôl Alison Edwards o Borth, sy'n anghytuno gyda gweledigaeth yr artist, byddai'r gwaith yn beryglus i gychod a'r rheiny sy'n syrffio a nofio yn yr ardal.
"Dwi ddim yn teimlo y bydd yn edrych yn neis iawn... hefyd, fe fydd yn dinistrio rhan helaeth o'r goedwig dan y lli - un o'r pethau mae'n debyg ei fod yn ceisio'i amddiffyn a chodi ymwybyddiaeth amdano fo," meddai.
"Does neb yn gwybod beth sy'n digwydd, dwi'm yn meddwl bod yr artist ei hun yn gwybod. Rydym ni'n dibynnu ar wybodaeth sy'n cael ei ryddhau yn dilyn penderfyniadau."
Ychwanegodd: "Weithiau mae'n swnio fel bod pethau yn symud ymlaen, wedyn does dim byd yn digwydd eto."