Apêl wedi gwrthdrawiad angheuol yng Nghastell-nedd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yng Nghastell-nedd ddydd Gwener.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Riverside am tua 10:00.
Bu farw'r dyn, sydd yn ei 70au, yn y gwrthdrawiad.
Cafodd neb arall eu hanafu ac mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio 101.