Sargeant: Gwrthod tystiolaeth gan gynghorwyr

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Mae cyfreithwyr ar ran cyn-brif weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi methu gyda'u hymdrech i herio penderfyniad y crwner i beidio â chynnwys negeseuon testun rhwng dau gynghorwr yn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant.

Negeseuon testun rhwng arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton a'i ddirprwy Bernie Attridge yw'r negeseuon dan sylw.

Cafodd cyn-AC Alun a Glannau Dyfrdwy ei ganfod yn farw bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo o gabinet Llywodraeth Cymru yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol.

Mae'r cwest yn trin y farwolaeth ar hyn o bryd fel un drwy grogi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais am ymateb.

Yn ystod y cwest ym mis Tachwedd, fe benderfynodd y crwner John Gittins i beidio â chlywed tystiolaeth gan Mr Shotton a Mr Attridge.

Roedd cyfreithwyr ar ran Mr Jones o'r farn bod negeseuon rhwng y ddau yn bwysig i'r achos ac felly wedi dewis herio'r penderfyniad yn yr Uchel Lys.

Mewn dyfarniad yn yr Uchel Lys ddydd Gwener, fe wrthodwyd y cais i wrthdroi penderfyniad y crwner gan y barnwr.

Dywedodd Mr Ustus Swift: "Wrth ystyried pa dystiolaeth i'w dderbyn, fe wnaeth y crwner y penderfyniad cywir."

Mae disgwyl i'r cwest i farwolaeth Mr Sargeant barhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.