Cynnydd bychan yn nifer y di-waith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffigyrau diweddara yn dangos fod 3.9% yn ddi-waith yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd o 4% yn y DU.
Mae hynny'n golygu bod cynnydd bychan o 0.1% wedi bod o'i gymharu â'r chwarter blaenorol rhwng Mehefin ac Awst.
Yn yr un cyfnod bu cynnydd o 0.7% yn nifer y bobl mewn swyddi - y cynnydd mwyaf yn y DU.
O'i gymharu â'r cyfnod rhwng Medi a Thachwedd 2017 mae nifer y bobl sydd mewn gwaith wedi cynyddu 3.1% yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 0.4% yng ngweddill y DU.