Galw am roi pleidlais i garcharorion o Gymru

  • Cyhoeddwyd
carcharFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai carcharorion o Gymru gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru, yn ôl academyddion.

Byddai galluogi carcharorion i bleidleisio yn gwella enw Cymru'n rhyngwladol, yn ôl Dr Robert Jones a Dr Greg Davies o Ganolfan Llywodraethant Cymru Prifysgol Caerdydd.

Maent hefyd am ddadlau bod colli pleidlais yn ddibynnol ar ddedfryd yr unigolyn sy'n troseddu, gyda rhai troseddau yn gallu arwain at ddedfryd o garchar mewn ambell fan, tra bod eraill yn gallu cael eu cosbi mewn ffyrdd wahanol.

Yr wythnos diwethaf, dangosodd ymchwil diweddaraf Dr Jones bod gan Gymru'r gyfradd uchaf o boblogaeth yn y carchar o gymharu â gwledydd eraill yng ngorllewin Ewrop.

Cyflwynodd y ddau eu hymchwil i Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn rhan o'u hymchwiliad i hawliau pleidleisio carcharorion.

'Anghofio' carcharorion

Mae Dr Jones a Dr Davies hefyd yn dadlau bod rhoi'r bleidlais i'r rhai sy'n byw yng Nghymru - yn hytrach na'r rhai sy'n y carchar yng Nghymru - am wella'r ffordd mae pobl yn ailintegreiddio ac ailsefydlu wedi iddynt adael y carchar.

Dywed y ddau y dylai carcharorion gael pleidlais bost ar gyfer etholiadau Cynulliad a llywodreath leol yng Nghymru.

Wrth dynnu eu hawl i bleidleisio, mae'n arwain at garcharorion yn "cael eu hanghofio a'u gwthio i'r naill ochr gan wneuthurwyr polisi, gwleidyddion a'r cyhoedd", yn ôl yr ymchwil.

"Nid ydym wedi dod o hyd i dystiolaeth i gefnogi'r honiad bod colli'r hawl i bleidleisio'n chwarae unrhyw ran bendant yn y ffordd mae unigolion sy'n penderfynu peidio ail-droseddu yn gwneud eu penderfyniadau."

Mae'r DU yn un o nifer fach o wledydd o'r 47 ar Gyngor Ewrop sy'n atal hawl unigolion yn y carchar i bleidleisio.

Ymhlith y gwledydd eraill mae Armenia, Bwlgaria, Estonia a Rwsia.

"Mae Cymru bellach mewn lle i herio hynny," yn ôl ymchwil Dr Jones a Dr Davies.

"[Byddai'n] fynegiant pwerus o'i hymrwymiad i hybu hawliau dynol ac ennyn diddordeb democrataidd.

"Ein safbwynt ni yw y byddai hyn yn gwella enw rhyngwladol Cymru ac, ar yr un pryd, lleihau'r niwed wnaeth Llywodraeth y DU drwy wrthod cydymffurfio a'u rhwymedigaeth gyfreithiol i weithredu beirniadaeth wrth Lys Hawliau Dynol Ewrop."

Ymateb cymysg

Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Gareth Bennett, a chyn-arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, wedi dweud na fydd y cyhoedd yn cefnogi newid o'r fath.

Dywedodd Alun Davies, a fu'n weinidog dros lywodraeth leol, ei fod wedi cynnig deddfwriaeth i alluogi carcharorion â "dedfrydau gymharol fyr o garchar i bleidleisio".

"Dwi'n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn nes ymlaen eleni," meddai.

"Mae'n gam cyntaf hanfodol wrth greu system gyfiawnder sy'n canolbwyntio ar ailsefydlu troseddwyr a'u cynorthwyo i ail-adeiladu eu bywydau."