'Pryder' am gyfradd poblogaeth Cymry sydd yn y carchar

  • Cyhoeddwyd
carcharFfynhonnell y llun, PA

Mae cyfradd uwch o boblogaeth Cymru yn y carchar nag unrhyw wlad arall yng ngorllewin Ewrop, yn ôl gwaith ymchwil newydd.

Dangosodd adroddiad newydd fod 154 carcharor am bob 100,000 o bobl yng Nghymru yn 2017, cyfran uwch na Lloegr (141) sy'n ail.

Dyma'r tro cyntaf i'r ffigyrau ar gyfer y ddwy wlad gael eu dadansoddi ar wahân.

Dywedodd Dr Robert Jones, awdur yr adroddiad, fod y ffigyrau yn peri gofid, a bod angen ymchwil pellach o ganlyniad.

Mae dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru o'r ffigyrau swyddogol yn dangos hefyd fod carcharorion o grwpiau lleiafrifol wedi eu gorgynrychioli i gymharu â charcharorion gwyn.

Trwy gymharu gyda'r data ar boblogaeth Cymru, roedd y ffigyrau yn dangos fod pobl dduon yng Nghymru 4.5 gwaith mwy tebygol o fod yn y carchar yn 2017.

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod fwy o bobl yng Nghymru yn mynd i'r carchar i gymharu â Lloegr, er gwaethaf y ffaith bod nifer y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn is, bob blwyddyn rhwng 2013 a 2017.

Yn ôl gwaith ymchwil Prifysgol Caerdydd, mae cyfanswm y bobl gafodd eu carcharu yng Nghymru wedi codi 0.3% rhwng 2010-17, tra bod y nifer yn Lloegr wedi disgyn 16% yn yr un cyfnod.

'Tueddiad pryderus'

Dywedodd Dr Jones: "Rydyn ni eisoes yn gwybod am gyfraddau carcharu Cymru a Lloegr mewn cymhariaeth â gorllewin Ewrop,.

"Ond gobeithio bydd y gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad yn gorfodi awdurdodau Cymru i gwestiynu rôl asiantaethau cyfiawnder y DU yng Nghymru, yn ogystal â sefydliadau cymdeithas sifil ac ymchwilwyr academaidd."

Mae'r Cyngor Canllawiau Dedfrydu wedi bychanu'r ffaith bod gwahaniaethau ystyrlon yn bodoli rhwng Cymru a Lloegr yn eu tystiolaeth ddiweddar i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru.

Fodd bynnag, dywedodd Dr Jones fod hwn yn faes na ellir ei ddiystyru mwyach.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai barnwyr annibynnol sy'n penderfynu ar ddedfrydau a hynny ar ôl clywed y ffeithiau ym mhob achos unigol, a gan ystyried y canllawiau priodol.

"Fel rydym wedi dweud eisoes mae poblogaeth y carchardai yn rhy uchel ac rydym yn ymchwilio i opsiynau eraill - gan gynnwys lleihau nifer y dedfrydau byr sy'n aml yn aneffeithiol ac yn rhoi bach iawn o gyfle i gywiro ymddygiad ac atal ail droseddu.

"Rydym yn glir wrth ddweud mai carchar yw'r lle gorau ar gyfer troseddwyr difrifol."